Cwis yn Bow Street

Cennin Pedr ym Mhlas-yn-Dogfael

Dyma dusw o gennin Pedr a gefais fel rhodd am fynd mas i Bow Street i gynnal cwis ar gyfer aelodau clwb Os mêts yng Nghapel y Garn. Roedd hi’n noson i ddathlu Gŵyl Dewi ac felly cyn y cwis fe gawsom ni gawl, pice bach a bara brith. Blasus iawn. Fe wnes i fwynhau mas draw, dwi ddim yn siŵr am y bobol ifainc, er fe wnaeth y rhan fwyaf ohonyn nhw lwyddo i guddio’u diflastod arddegol naturiol am ryw gyfnod yn ystod y noson! Cefais groeso mawr gan bawb ac roedd hi’n bleser cael bod yno. Weithiau dwi’n holi fy hun pam fy mod yn addo gwneud y pethau hyn, ond roedd hi’n werth addo er mwyn cael noson fel hon.

Rhagor o luniau o’r noson a’r cennin Pedr.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (4 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>