Er mawr gywilydd imi dwi newydd wylio rhaglen deledu arall. A hithau’n dymor y Garawys dylwn i fod yn osgoi temtasiynau o’r fath, ond mae arlwy S4C y dyddiau hyn yn gorfodi rhywun i wylio. Heno roedd ‘na raglen am Jennie Eirian Davies yn cael ei darlledu o dan y teitl syml Jennie (Cambrensis). Roeddwn i’n gwybod fod y rhaglen ar y gweill ers tipyn gan fod yr actores oedd yn portreadau Jennie Eirian yn y rhaglen, Rhian Morgan, wedi dweud wrtha i ei bod hi’n mynd i wneud y gwaith pan ddaeth hi i fyny i Aberystwyth i fynd i’r Llyfrgell Genedlaethol i wneud darllen cefndir amdani. Ni chefais fy siomi gan berfformiad Rhian Morgan; er nad oedd yn ceisio ei dynwared yn union dwi’n credu ei bod wedi llwyddo i gyfleu y person oedd Jennie Eirian Davies. Fe wnes i fwynhau’r rhaglen yn fawr iawn hefyd gan ei bod yn dod yn ôl â nifer o atgofion am fy ieuenctid – dwi’n ei chofio fel golygydd y Faner yn iawn, ac yn cofio anghytuno yn chwyrn gyda’i safbwynt ar y bedwaredd sianel. Dwi’n ei chofio hefyd fel llywydd cenedlaethol Merched y Wawr; roedd fy mam yn aelod ffyddlon a brwd o’r mudiad ac roedd Jennie Eirian yn un yr oedd hi’n ei hedmygu’n fawr iawn. Ni chafodd fy mam y cyfleoedd addysgol a gafodd Jennie Eirian mae’n wir, ond mewn llawer ffordd yr oedd hi’n debyg – cenedlaetholdeb, anghydffurfiol, heddychol, cymdeithasol a diwylliannol. Tebyg iawn i genedlaetholdeb Gwynfor Evans ei hun. Ond y ddau yn dod wyneb yn wyneb yn 1980 dros achos y bedwaredd sianel. Clywais Vaughan Hughes ar y radio yn dweud nad oedd y rhaglen wedi dal cynnwrf neu wrthdaro’r cyfnod hwnnw’n llawn. Dwi ddim yn siŵr o hynny. Roedd yr ymdriniaeth o’i marw sydyn yn un sensitif ac roedd yr ymgais i esbonio beth oedd yn digwydd o’i mewn ar y pryd yn gymorth arbennig i ddeall beth ddigwyddodd i berson oedd hoff o fywyd ac yn llawn ohono.
Efallai taw’r hyn oedd yn fwyaf emosiynol am y rhaglen oedd y cyfweliad gyda’i mab, Siôn Eirian. Yr oedd cariad yn goferu’n dawel wrth iddo sôn am ei fam a’i gwaith a’i dylanwad. Fel y dywedais yr oeddwn yn eithaf hoff o’r darnau lle’r oedd Rhian Morgan yn ‘ail-greu’ Jennie Eirian hefyd – yn y mans, yn y garafan, ac yn y digs yn Aberystwyth. Doeddwn i ddim cweit yn deall o ble’r oedd y geiriau yr oedd hi’n llefaru yn dod bob amser. Weithiau yr oedden nhw’n swnio fel ei geiriau hi, ond bryd arall yr oedd yn swnio fel geiriau gwneud, yn arbennig felly wrth gyfeirio at ddigwyddiadau neu at bobol amlwg a rhoi rhyw esboniad ar beth a phwy oedden nhw. Dwi ddim am bechu neb, ond doeddwn i ddim yn credu fod pob un cyfwelai yn haeddu cymaint o amser na gofod a hynny heb unrhyw her i’w ‘doethinebu’ nad oedd mor ddoeth bob amser. Yr unig gŵyn arall sydd gen i yw bod ‘na beth gamddealltwriaeth ynglŷn â rhai ffeithiau er nad oedden nhw wedi amharu cymaint â hynny ar fy mwynhad. Ddeallais i ddim o gwbl cronoleg y digwyddiadau yn y 1950au, sef Eisteddfod Caerffili 1950, coroni’r frenhines 1953 ac Eisteddfod Aberdâr 1956; ai Gorllewin Caerfyrddin oedd enw’r etholaeth yn 1955 ac 1957 pan wnaeth Jennie Eirian sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru; nid Euros Bowen, ond Geraint Bowen oedd golygydd y Faner. Ond pethau bach oeddent hwy mewn gwirionedd. Rhaglen gwerth ei gwylio ac yn gweithredu fel peiriant amser gan gludo DML a finnau ar ein soffa ym Mhlas-yn-Dogfael yn ôl i’n hieuenctid ffôl.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael