Mae’n fisoedd bellach ers imi i bob pwrpas rhoi’r gorau i edrych ar y teledu yn rheolaidd. Ac mae hynny wedi bod yn brofiad rhyddhaol iawn. Roeddwn i wedi dod i’r casgliad fod teledu yn lladd y dychymyg ac yn pydru’r meddwl. Ond yn raddol dros y mis diwethaf dwi wedi dechrau teimlo fy hun yn cael fy nhynnu yn ôl i mewn i grafangau’r cyfrwng a dwi’n gorfod amau a oeddwn i’n gywir am effaith teledu ar berson. A’r rheswm dros hynny yw fod S4C yn darlledu dwy gyfres sy’n wylio gorfodol a gwych. Un o’r cyfresi hynny yw Teulu (Boomerang) – fe wnes i gamgymeriad o’r blaen yn galw’r gyfres yn Y teulu. Dwi newydd fod yn gwylio’r rhaglen ddiweddaraf heno. Sôn am drofa emosiynol! Mae’r gyfres yn wych. Anodd gwybod pwy na beth i’w ganmol – mae’r actio yn arbennig iawn, pob un ohonyn nhw. Ar hyn o bryd dwi’n dwlu ar berfformiadau Rhys ap Hywel fel Llŷr, Jonathan Nefydd fel Danny, Eiry Thomas fel Eirlys. Er mae’n rhaid imi gyfaddef taw tipyn o gamp yw sylwi fod rhai yn well na’i gilydd gan fod y safon mor gyson o uchel. Mae’r ysgrifennu’n dda hefyd. Sylwais taw Geraint Lewis oedd wedi ysgrifennu’r rhaglen heno, ond mae enw Meic Povey wedi ymddangos yn gyson fel awdur hefyd. Wrth gwrs er mwyn gweld pwy sydd i’w ganmol does dim dewis ond dilyn yn ofalus y rhestr sy’n ymddangos ar ddiwedd pob pennod. Felly i’r rhai oedd ddim yn ddigon amyneddgar i wneud hynny dyma’r credydau am yr actorion oedd yn cymryd rhan heno (2008-02-24).
Teulu
gan MEIC POVEY a BRANWEN CENNARDRichard
WILLIAM THOMASMargaret
MAIR ROWLANDSHywel
GERAINT MORGANLlyr
RHYS AP HYWELLLINOS
Rhian JonesDot
GAYNOR MORGAN REESCatrin
HELEDD BASKERVILLEOwain
ZAK DALYDanny
JONATHAN NEFYDDDr John
RHYS PARRY JONESEirlys
EIRY THOMASManon
CATRIN MORGANMeleri
LYDIA JONESEric
DEWI RHYS WILLIAMSRhydian Lloyd
MEILYR SIONAwdur
GERAINT LEWISCyfarwyddwr
GWENNAN SAGE
Yr ail gyfres mae’n rhaid imi ei gweld ar S4C yw Sioe PC Leslie Wynne (Alfresco). Fe welais i Tudur Owen yn perfformio cyn y Nadolig mewn noson lansio un o lyfrau Gwasg Gwynedd ym Mhorthmadog a chael fy siomi ar yr ochr orau. Mae’r gyfres hon wedi cadarnhau ei le fel un o’n prif gomediwyr. Mae’r gyfres hon “bron yn fyw” ac mae hynny’n bwysig gan ei bod bron â llwyddo i roi ryw ymdeimlad i’w gwyliwr o beth yw i fod yn bresennol ym mherfformiad byw Tudur Owen a’r modd y mae’n ymwneud mor slic gyda’i gynulleidfa.
Mae’r traddodiad o gynnal sioe siarad mewn persona arall yn un anrhydeddus iawn – Dame Edna a Mrs Merton, er enghraifft – ac mae Tudur Owen, aka PC Leslie Wynne, yn cynnal y traddodiad hwnnw ac yn ei gyfoethogi. Dwi’n credu fy mod i’n dechrau mynd yn osbesd gyda’r gyfres gan fy mod i’n gwylio’r rhaglenni rhyw dair neu bedair gwaith yr un ar wasanaeth gwylio eto S4C. Mae clywed am hanes ei chwiorydd – Eryl, Vivian a Lyndsey – a gweddill y teulu yn gwneud imi chwerthin yn ddi-reolaeth.
Petai tîm o awduron profiadol yn gweithio ar y rhaglen fyddai hynny ddim yn synnu dim arna i, ond wrth wylio’r credydau ar y diwedd dim ond un enw, sef un Tudur Owen ei hun, a oedd yn ymddangos fel sgriptiwr.
Mae’r holl syniad o fod yn un o gwnstabliaid North Wales Police yn ffantastig o wreiddiol, ond yr hyn dwi’n dwlu arno yw gallu Tudur Owen i gynnal y cymeriad a hynny hyd yn oed i’r iaith y mae’n ei defnyddio. Mae ‘na lawer o Saesneg yn gymysg gyda’r Gymraeg, ond yn adlewyrchu’n berffaith Cymraeg siaradwr brodorol o’r gogledd orllewin sydd ddim yn ymwybodol Gymraeg. Bydda i’n rhyfeddu’n gyson at sut mae Tudur Owen yn gwneud hynny. Does dim ond angen iddo agor ei geg yn aml iawn a dwi ar y llawr cymaint y mae’n gwneud imi chwerthin.
Wrth gwrs, mae’n siŵr fod ‘na bobol mas yn gwylio sy’n meddwl fod y rhaglen yn gwrs ac yn ddi-chwaeth. Bid a fo am hynny, yr hyn sy’n bwysig yn y pendraw yw ei bod hi’n ddoniol, yn ddoniol iawn. Pwy na allai gael ei ddifyrru gan ei gyfweliad hilariws gyda’r dywyddwraig Siân? Dwi’n gobeithio’n fawr y cawn glywed eto am y grŵp cymdeithasol mae PC Leslie Wynne wedi ceisio’i ffurfio fel ateb North Wales Police i Sexy Welsh and Social, sef Friendly Welsh and Caring!



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Dw inne’n mwynhau Teulu, er mod i wedi colli pennod neu ddwy.
Dwi’n meddwl mai ar dy flog di welais i gyfeiriad at y ddrama ‘Teulu’ yn gyntaf, ac mae’n rhaid dweud fy mod yn ei fwynhau yn fawr iawn . Heb weld y chweched bennod eto , sef yr un diweddaraf. Hon ydi’r rhaglen Gymraeg gyntaf i mi ei wylio ar y teledu drwy gyfrwng y cebl s video , felly yn arbennig oherwydd hynny hefyd.
Mi welais i Sioe PC Leslie Wynne am y tro cyntaf ddoe ,yn fyw ar S4C ….doniol a chlyfar iawn !