Na i globaleiddio yn Aberystwyth!

Protest fu fas i Costa Coffee, AbersytwythWel heddiw fe fues i mewn piced a phrotest tu fas i gaffi Costa Coffee yn Aberystwyth yn brwydro yn erbyn cyfalafiaeth ryngwladol a globaleiddio. Agorodd siop goffi Costa Coffee yn Stryd Fawr Aberystwyth heddiw. Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi trefnu piced trwy’r tu fas i’r siop a phrotest gyda siaradwyr amser cinio. Es i ar gyfer y brotest. Mae tri pheth yn benodol yn fy nghythruddo am y siop – dim arwyddion Cymraeg, dim cynnyrch lleol, a dim caniatâd cynllunio. Yr olaf sydd wedi cythruddo caffis bach annibynnol y dref. Does gan Costa ddim caniatâd i agor caffi, dim ond siop cymryd i ffwrdd. Ond dydyn nhw’n poeni dim am hynny gan fod ganddyn nhw’r adnoddau i ymladd unrhyw benderfyniad gan adran gynllunio’r Cyngor Sir yn eu herbyn. Felly wrth i gaffis annibynnol y dref ufuddhau i benderfyniadau’r adran gynllunio, mae’n well gan Costa eu hanwybyddu. Aed y frwydr yn ei blaen!

Yr unig broblem bellach yw fy mod wedi hoelio fy lliwiau yn gadarn i’r mast a phetawn i’n cael fy nhemtio i fynd trwy ddrysau Costa Coffee unrhyw bryd yn y dyfodol buaswn yn agored i gael fy nghyhuddo o ragrith. Dim dewis bellach ond sticio gyda’r bois a’r merched lleol!

Taflen a oedd yn cael ei dosbarthu yn y brotest

Rhagor o luniau o’r brotest tu fas i Costa Coffee, Aberystwyth.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 2.50 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Na i globaleiddio yn Aberystwyth!

  • Gwdi Hw

    Trueni fyd, mae nhw’n neud paned aruthrol dda o Goffi ;)

  • BU eitem ar Radio 4 rhyw fis yn ôl yn sôn sut mae Costa ac efallai Starbucks ar ras wyllt i agor canghennau newydd er mwyn domiwnyddu marchnad sy’n brysur ddod at ’saturation point’ yn y dinasaoedd mawr. Bron iawn yn ddi-eithriad tydyn nhw ddim yn sicrhau caniatad cynllunio, ac mae nhw’n bendant bod loophole yn y ffordd mae’r ddeddf cynllunio wedi ei eirio sy’n golygu nad oes rhaid iddynt sicrhau caniatad. Does dim cywilydd ganddynt.

    Er mod i’n mwynhau paned o goffi (a chacen) dwi erioed wedi bod i Costa na Starbucks, na byth yn bwriadu chwaith.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>