Methu cysgu

Dwi wedi cael dwy neu dair noson ddiflas dros yr wythnos sydd wedi mynd heibio. Dwi wedi dihuno yng nghanol y nos a methu mynd yn ôl i gysgu. A’r un hen bethau sydd wedi bod yn mynd trwy fy meddwl sef yr holl achlysuron yna yn fy mywyd pan dwi wedi dweud y pethau anghywir neu drwsgl a’r modd y mae hynny (yn ôl fy nghanfyddiad i) wedi tramgwyddo pobol eraill. Mae’n anhygoel sut yr ydw i wrth orwedd yn y gwely yn ceisio fy ngorau i fynd i gysgu yn medru cofio pethau a ddywedais flynyddoedd yn ôl, hyd yn oed pan roeddwn i’n blentyn. Ond does dim pleser yn yr atgofion hyn o gwbwl, maen nhw i gyd yn f’atgoffa o’m diffyg sensitifrwydd, twpdra, neu ffolineb wrth ddelio gyda sefyllfaoedd penodol. Dwi’n gobeithio y bydda i’n cysgu gyda’r nos yn well yn yr wythnos sy’n dod.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

4 sylw ar Methu cysgu

  • Emyr. Diolch am y nodyn. Dwi’n ofni efallai imi wneud y sefyllfa i swnio’n waeth nag yw/oedd hi. Fe wnes i gael tair noson ddiflas o ddiffyg cwsg. Peth rhyfeddol yw’r cof yn medru dod o hyd i ddigwyddiadau roedd dyn yn credu eu bod nhw wedi’u hanghofio yn llwyr. Roeddwn i’n arfer diystyru unrhyw sôn am bŵer a dylanwad yr isymwybod a phethau fel ‘ny ar ein hymarweddiad fel pobol. Ond yn raddol dwi wedi gorfod newid fy meddwl. Sut yn y byd mawr y mae esbonio cofio digwyddiad pan oeddwn i’n wyth mlwydd oed yn glir fel y dydd? Nid fod y cof wastad yn condemnio, mae digon o achlysuron pan mae’n dod ag atgofion melys i mi; ond dyw hynny byth yn digwydd pan dwi’n dihuno ganol nos.

    Un o’r pethau sy’n felys iawn i’w gofio yw’r tro cyntaf imi ddarllen Gerard Manley Hopkins. Ces i fy ngorfodi i’w astudio ar gyfer Lefel A Saesneg ond yn rhyfeddol fe wnaeth y profiad fy nhroi i yn ffan mawr o’i waith. Roedd ein hathrawes Saesneg yn llawn brwdfrydedd am ei waith a hynny’n rhannol am ei bod hi wedi ‘dychwelyd’ at Babyddiaeth. Dwi’n ei chofio hyd heddiw yn darllen Wreck of the Deutschland allan yn uchel yn y dosbarth ac yn ceisio ein cael ni i’w deall a’i gwerthfawrogi. Nid yw’n hawdd i fi heddiw, roedd hi’n fwy anodd fyth pan yn 16 blwydd oed. Dwi’n medru clywed ei llais wrth ddarllen y pennill cyntaf.

    Thou mastering me
    God! Giver of breath and bread;
    World’s strand, sway of the sea;
    Lord of living and dead;
    Thou hast bound bones and veins in me, fastened me flesh,
    And after it almost unmade, what with dread,
    Thy doing : and dost thou touch me afresh?
    Over again I feel thy finger and find thee.

    Diolch, Emyr, am f’atgoffa am Hopkins ac am f’athrawes Saesneg wych. Dylai hynny dawelu ychydig ar fy ngofid!

  • Emyr

    Duw duw ‘chan.

    Os oes unrhywbeth yn gwrthbrofi dy asesiad ohonot dy hun fel un sy’n arddangos “diffyg sensitifrwydd, twpdra, neu ffolineb” yna’r ffaith dy fod yn gwneud yr asesiad hwnnw ydyw.

    Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi gwneud a dweud pethau yr ydym wedi ‘difaru amdanynt am dri o’r gloch y bore.

    Y gwir ddihirod yw’r rhai hynny a wnaethasant ac a ddywedasant, ond na fu’n edifar ganddynt.

    Gwneud ein gorau yn yr hen fyd yma ydym ni. Eiddo saint yn unig yw perffeithrwydd ac (er gwaethaf dy enw), diolch byth nad wyt yn sant.

    Dwn i ddim a wyt ti’n ffan o Gerard Manley Hopkins, ond mae o’n cwyno yn un o’i “sonedau ofnadwy” am fethu cysgu, ac yn ei weld ei hun fel y dihyryn pennaf – nad oedd yn wir wrth gwrs.

    Well gen i drywydd y soned canlynol. Tro nesa’ rwyt ti’n deffro ganol nos (a gobeithio y cei dy gwsg da), efallai y bydd o werth i ti:

    THE WORLD is charged with the grandeur of God.
    It will flame out, like shining from shook foil;
    It gathers to a greatness, like the ooze of oil
    Crushed. Why do men then now not reck his rod?
    Generations have trod, have trod, have trod;
    And all is seared with trade; bleared, smeared with toil;
    And wears man’s smudge and shares man’s smell: the soil
    Is bare now, nor can foot feel, being shod.

    And for all this, nature is never spent;
    There lives the dearest freshness deep down things;
    And though the last lights off the black West went
    Oh, morning, at the brown brink eastward, springs—
    Because the Holy Ghost over the bent
    World broods with warm breast and with ah! bright wings.

  • Diolch am dy eiriau caredig ceri wyn. Dwi ddim yn credu ‘mod i’n depressed go iawn, ond roeddwn i wedi dweud rhyw bethau twp deirgwaith yr wythnos diwethaf. Wrth ‘twp’ dwi’n golygu ‘mod i wedi siarad ar fy nghyfer heb feddwl am beth roedd rhywun arall yn ei feddwl – nid fy mod i wedi mynd mas o’m ffordd i geisio gwneud loes i neb. Rwyt ti’n gwybod sut un ydw i mae’n debyg, yn un sy’n ceisio dweud rhywbeth i godi gwên yn gyson. Weithiau fe all hynny chwythu lan yn dy wyneb! Nawr, mae’n bosib nad oedd y bobol roeddwn i’n siarad gyda nhw hyd yn oed wedi sylwi ar beth ddywedais i (neu wedi arfer cymaint â mi fel eu bod yn anwybyddu’r peth), ond roeddwn i’n teimlo fy mod heb ddweud y peth iawn ac wedi bod yn ansensitif. Pan wyt ti’n chwilio am gariad fel dwi’n gwneud bob amser mae unrhyw awgrym dy fod wedi codi mur rhyngot ti a rhywun arall yn peri gofid! Ie, dwi’n gwybod ei bod yn swnio’n rhyfedd, ond un fel ‘na ydw i. Ac wedyn cyfuniad o hynny gyda dihuno yn y nos oedd yn gyfrifol. Diolch am ddweud dy fod yn fy ngharu. Sut oeddet ti’n gwybod fod hynny mor bwysig i mi?!

  • Pych; paid a bod mor dwp Dogfael – simo n’in napod ein gilydd cystlad a ‘ny, ond ifi ariod wedi dy weld di fel unrhywbeth ond un o’r bobl neisia, mwyaf caredig a hoffus y cesoi’r pleser o gal cwrdd ag e – ti’n swno’n depressed gyfaill ond wir iti, daw haul ar fryn. Fi’n dy garu di, foi xxx

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>