Y pair

Y PairA yw’r Gweinidog Treftadaeth yn gwneud unrhyw beth sy’n werth canu ei glod amdano y dyddiau hyn? Wel, y Llywodraeth sydd yn rhoi’r grant cymorth i Theatr Genedlaethol Cymru a’r wythnos hon fe welais beth o ffrwyth y cymorth hwnnw ar ffurf cynhyrchiad o Y pair (The crucible) gan Arthur Miller mewn cyfieithiad newydd gan Gareth Miles. Drama am ddial ac erlid yw hon. Mae wedi’i gosod yn Lloegr Newydd ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg adeg erlid “gwrachod” yn Salem, Massachusetts. Ond ei thema yw’r hyn oedd yn digwydd yn y Taleithiau Unedig yn ystod y 1950au pan erlidiwyd y rhai a dybiwyd i fod yn gomiwnyddion neu’n cydymdeimlo gyda chomiwnyddiaeth gan yr House Un-American Activities Committee o dan arweiniad y Seneddwr Joe McCarthy. Mae’r sylw’n arbennig hefyd ar y pwysau ar bobol i enwi enwau’r rhai yr oedden nhw’n “gwybod” eu bod yn gomiwnyddion.

Yn ôl hysbysrwydd y Cwmni Theatr dyma y cynhyrchiad mwyaf erioed yn Gymraeg gyda chwmni o 17 o actorion. Wel mae’n amlwg fod maint yn rhywbeth i wneud sŵn amdano ac yn cyfrif yn yr achos hwn. Cefais brofiad arbennig. Ond mae’r sawl sydd yn fy adnabod yn gwybod fy mod yn rhy barod o’r hanner i adael fy anghredinedd y tu fas i ddrws y theatr a derbyn popeth sy’n cael ei roi o’m blaen. Dwi’n dwlu ar y theatr, ond dwi’n mynd mor anaml fel fy mod i’n colli fy mhen yn lân mewn unrhyw gynhyrchiad. Roedd hyn yn arbennig o wir am y cynhyrchiad hwn oherwydd yr oedd ‘na elfen o atgof personol yn perthyn i’r peth. Roeddwn i wedi astudio un o ddramâu Miller ar gyfer Lefel A Saesneg, Death of a salesman, ac wedi darllen The crucible bryd hynny ac wedi rhyfeddu arni. I ddweud y gwir buasai dim angen i neb wneud mwy na darllen y ddrama yn uchel i fy mhlesio i. Fe wnaeth y Cwmni Theatr lawer mwy wrth gwrs, heb golli golwg ar y geiriau. Geiriau Miller, ond trwy enau Gareth Miles, dyna gyfuniad sy’n swnio fel un perffaith ar gyfer llwyddiant ac felly y bu. Yn ddiddorol iawn roedd Miles wedi ceisio cadw naws iaith Miller ac wedi defnyddio cywir lled-lenyddol a ffurfiol yn hytrach na’r llafar anffurfiol yr ydym yn ei glywed mewn dramâu cyfoes bellach.

Teyrnged i berfformiad y cwmni yw’r ffaith fod y ddrama yn dair awr o hyd a bod yr amser wedi hedfa. Nid gormodiaith yw hynny. Dwi’n clywed fod rhai pobol wedi gwneud môr a mynydd o hyd y perfformiad; galla i ddweud yn gwbl onest taw dyna’r peth diwethaf oedd yn mynd trwy fy meddwl i wrth wylio’r perfformiad yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Dechreuodd y perfformiad am 7.30pm, cafwyd egwyl am ryw 9.00pm, a chyn imi sylweddoli roedd hi wedi troi 10.30pm. Doedd diflastod ddim wedi fy nharo ar unrhyw adeg yn ystod y nos. I ddweud y gwir roeddwn wedi ymgolli’n llwyr yn y digwydd.

pair02Pan fo un deg saith ar y llwyfan mae hi ond yn anorfod fod rhai yn rhagori ar ei gilydd, ond y peth mawr oedd eu bod hwy i gyd yn cyd-chwarae a hynny oedd un o’r rhesymau ei bod hi’n noson cystal. Os buasai’n rhaid imi enwi un neu ddau o’r cast yna Owain Arwyn (John Proctor), Richard Elfyn (John Hale) a Catrin Morgan (Abigail Williams), a Catrin Powell (Elizabeth Proctor). Roedd yr hen ddwylo profiadol hefyd yn haeddu eu lle – Owen Garmon, Christine Pritchard, Dyfan Roberts.

Y pairYr hyn oedd yn taro rhywun wrth wylio’r ddrama oedd yr egni emosiynol yr oedd yn rhaid i’r holl actorion ei ddefnyddio trwy gydol y perfformiad. Nid oes eiliad lle nad yw’r ddrama yn gofyn y cyfan gan yr actorion, ac roedd aelodau’r cast yn atebol i hynny. Dro ar ôl tro roeddwn i wedi ymgolli yn yr hyn a oedd yn digwydd ar y llwyfan ac yn teimlo fy hun yn rhan o’r dorf gyhuddgar wrth i un ar ôl y llall gael eu henwi fel gwrachod gan y merched dialgar. Yn yr olygfa olaf lle mae John Proctor yn gorfod penderfynu a yw am fradychu ei hun ac eraill roeddwn i’n dal ar bob gair ac yn cywilyddio wrth feddwl pa mor wan a di-asgwrn cefn y byddwn i wedi bod yn y sefyllfa honno o flaen yr House Un-American Activities Committee.

Dyma theatr genedlaethol sy’n haeddu’r enw ac yn cyflawni eu nod o “bortreadu safle’r byd yn y genedl”. Ni ddylai rhywun golli’r cyfle i weld y perfformiad hwn o un o weithiau theatraidd mawr yr ugeinfed ganrif.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.67 allan o 5)

Sylwadau 2

  1. Nic Dafis sy wedi dweud:

    Cytuno yn llwyr â thi ynglŷn â hyd y ddrama; dw i wedi gweld dramâu dwyawr sy’n llawer hwy na hyn.

    Postiwyd 02 Maw 2008 am 23:14
  2. John Owen sy wedi dweud:

    Drama hynod arbennig yw hon, ond pam oedd raid cael iaith mor ffurfiol? Roedd y llefaru ar adegau yn lefaru llyfr. Yna yn sydyn yr oedd ymadrodd neu air llafar yn torri ar draws hyn oll - megis “ffansïo” Roedd cyfieithiad John Gwilym Jones yn fwy llafar ac ystwyth. Onid gwerinwyr oedd y rhan fwyaf o`r cymeriadau?

    Er i m fod yn y sedd flaen, collais ambell i linell gan y merched ifanc. Yng ngolygfa`r Llys, gallasai`r merched fod wedi bod yn fwy dramatig pan oeddynt o dan ddylanwad honedig. Gwelais gynhyrchiad Saesneg o`r ddrama yn y Royal Exchange ym Manceinion, flynyddoedd yn ôl yn rhyddhau`r merched i wasgaru bob cyfeiriad gydag elfen rywiol gref yn eu hochain a`u hystumiau. Roedd honno yn olygfa fythgofiadwy yn wir.

    Heblaw am hynny, roedd y perfformiad yn un grymus dros ben. Gyda`r fath ddrama, anodd fyddai i`r perfformiad beidio â bod yn rymus. Teirawr fer a gawsom a pherfformiad gloyw.

    Diolch yn fawr.

    Melys moes mwy.

    Postiwyd 07 Maw 2008 am 18:50

Gwneud sylw

Ni chaiff dy gyfeiriad e-bost fyth mo'i gyhoeddi na'i rannu. Nodir y meysydd hanfodol gyda *