Mwy am bapur dyddiol Cymraeg a chwarae gyda geiriau

Dyn yn darllen papur newyddY newyddion da yw fy mod yn gwybod bellach fod y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, wedi bod yn darllen fy mlog. Wel, pan dwi’n dweud ei fod wedi bod yn darllen fy mlog, yr hyn dwi’n ei olygu mewn gwirionedd yw ei fod wedi darllen un cofnod, sef yr hyn yr ysgrifennais am ei benderfyniad i ychwanegu £200,000 i’r grant y mae’r Llywodraeth yn ei roi ar gyfer darpariaeth newyddion yn Gymraeg, gan gynnwys papur newydd dyddiol newydd. Y newyddion drwg yw na fydda i’n debygol o ddefnyddio ei sylwadau fel hysbyseb i’r blog. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud (diolch Hedd!).

“Diddorol gan fod y Blogiwr yn gwbl anwybodus am fanylion cynllun busnes Dyddiol Cyf ac hyd yn oed yn fwy anwybodus am gyflwr y wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg. RGT”

Mae’r Gweinidog yn iawn na wn i ddim am fanylion cynllun busnes Dyddiol Cyf., ond nid wyf yn derbyn ei honiad fy mod yn gwybod llai fyth am gyflwr “y wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg” (oni fyddai “Cymraeg” yn ddigon?). Dwi wedi darllen arolwg y Dr Tony Bianchi sydd, o’r hyn a ddeallaf fi, yn crynhoi bron y cwbl y gellir ei wybod am gyflwr y wasg brintiedig Gymraeg mewn un man. Nid oeddwn i’n tybio o gwbl taw pwyso a mesur cynllun busnes Dyddiol Cyf. fuasai’n pennu ymrwymiad y gweinidog i’r addewid a wnaed i sefydlu papur dyddiol Cymraeg ym maniffesto etholiadol Plaid Cymru, neu yn rhaglen llywodraeth Cymru’n Un. Cyfeiria y Dr Tony Bianchi at Dyddiol Cyf. yn ei adroddiad bron â bod yn yr un modd ag y gwnes i ar fy mlog, sef bod yn rhaid defnyddio’r data a gasglwyd gan y cwmni hwnnw fel rhyw fath o sail ar gyfer dweud rhywbeth ystyrlon am ddichonoldeb sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg. Buasai peidio â gwneud hynny yn golygu ein bod yn dewis anwybodaeth dros wybodaeth. Dyma beth ddywed y Dr Tony Bianchi yn adran casgliadau a’i argymhellion ei arolwg am bapur dyddiol Cymraeg. Wrth gwrs mae’n rhaid darllen yr holl adroddiad i ddeall rhai o’r sylwadau hyn.

11.2 Papur Dyddiol Cymraeg

Ni phrofwyd ac ni ellir profi y tu hwnt i bob amheuaeth bod papur dyddiol Cymraeg yn fenter ddichonadwy ar sail ymchwil farchnad na modelau cymaradwy mewn mannau eraill. Mae prosiect Dyddiol Cyf. yn uchelgeisiol hefyd yng nghyd-destun profiad diweddar o gyhoeddi yn Gymraeg. Ar y llaw arall, mae ei gais wedi’i seilio ar egwyddorion cryf, mae tystiolaeth bod canran uchel o’r farchnad arfaethedig â diddordeb yn y fenter, mae’r arian a gasglwyd oddi wrth fuddsoddwyr preifat yn fwy na’r targed ac mae’r ffigurau sy’n dynodi gwerth am arian yn lled debyg i gyhoeddiadau o faintioli cyffelyb mewn ieithoedd lleiafrifol eraill. Fe all mai ei natur unigryw fydd ei nodwedd bwysicaf o ran ymgyrraedd at ei dargedau uchelgeisiol; ond dyna, hefyd, sy’n ei gwneud yn anodd mesur tebygolrwydd ei lwyddiant. Cytunir yn gyffredinol y byddai prosiect llwyddiannus yn dod â buddiannau i’r sector cyfan; byddai menter ddi-ffrwt, herciog yn gwneud niwed mawr iddo.

Argymhellir

· bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i sicrhau grant digonol ar y cychwyn, er mwyn galluogi’r cyhoeddwr i ddenu’r incwm uchaf posibl o ffynonellau eraill, ac yn arbennig o danysgrifiadau a hysbysebion
· bod unrhyw grant yn cael ei seilio ar yr angen gwirioneddol a ddangosir yn y cynllun busnes a gymeradwyir yn y pen draw gan Lywodraeth y Cynulliad
· bod ymgeiswyr am gymhorthdal yn cael eu hannog i gynnig mesurau ‘wrth gefn’ a allai leihau risg a chryfhau eu cynaladwyedd, megis blaenoriaethu’r papur craidd (print ac ar-lein) ar draul atodiadau, rhannu costau a gweithrediadau trwy fentro ar y cyd â chwmni arall, etc.
· bod y cyhoeddwr, cyhyd â’i fod yn cwrdd â’r amodau a’r targedau a gytunir ymlaen llaw, yn cael cymaint o ryddid ag sy’n bosibl o ran defnyddio’r cymhorthdal
· bod y swm ar gyfer ariannu papur dyddiol Cymraeg yn cael ei bennu, ei gorlannu a’i weinyddu ar wahân i unrhyw wariant arall yn y sector
· bod unrhyw arian a gynigir i bapur dyddiol Cymraeg yn cael ei weinyddu a’i fonitro gan Gyngor Llyfrau Cymru, gan fod gan y corff hwn brofiad helaeth o oruchwylio a chloriannu cefnogaeth i’r cyfryngau print Cymraeg
· bod lefelau’r cymhorthdal yn cael eu nodi am o leiaf dair blynedd, a phum mlynedd os oes modd, er mwyn creu hinsawdd sefydlog i fuddsoddwyr, tanysgrifwyr a’r staff.

A oes angen imi wybod beth yw cynllun busnes Dyddiol Cyf. er mwyn medru gwybod a yw £200,000 y flwyddyn dros dair blynedd yn ddigon o gymhorthdal ar gyfer sefydlu a rhedeg papur dyddiol Cymraeg? Byddwn i’n dweud taw “nag oes” yw’r ateb. Ai gwybodaeth o gynllun busnes Dyddiol Cyf. ddylai benderfynu a yw’r llywodraeth yn mynd i gadw at ei haddewidion etholiadol a llywodraethol i sefydlu papur newydd Cymraeg? Byddwn i’n dweud taw negyddol yw’r ateb i’r cwestiwn hwnnw hefyd. Nid addewid i roi arian i gwmni Dyddiol Cyf. a welwyd ym maniffesto Plaid Cymru na rhaglen llywodraeth Cymru’n Un, ond addewid i gefnogi sefydlu papur dyddiol Cymraeg.

Ym myd gwaith ceir y fath beth â ‘constructive dismissal’. Ystyr hyn yw bod eich cyflogwr yn gwneud ichi wneud gwaith sydd mor annerbyniol ichi fel eich bod yn penderfynu ymddiswyddo, a hynny er mwyn iddo fe beidio â gorfod eich diswyddo. Mae cynnig cymhorthdal nad yw’n ddigon i’w gwneud hi’n bosib i sefydlu papur dyddiol Cymraeg – ac mae’r holl sylwebyddion dwi wedi’u clywed yn siarad ar y pwnc yn tybio nad yw £200,000 y flwyddyn yn ddigon – rhywbeth yn debyg. Mae’n rhyw ymgais i wantan a disylwedd i gadw addewid yn ymddangosiadol, tra mewn gwirionedd yn gwneud y gwrthwyneb.

I mi y peth pwysig yn y cyd-destun hwn yw bod addewid wedi’i wneud. Ond mae’r Gweinidog yn gwadu hynny bellach. Fel hyn y dywedodd mewn ateb i lythyr gan Hywel Griffiths, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar bwnc papur dyddiol Cymraeg.

Gallaf dy sicrhau imi fod yn gefnogwr brwd ac ymroddgar i’r syniad o bapur dyddiol yn y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf. Mae na broses y mae’n rhaid ei dilyn wrth fuddsoddi arian cyhoeddus sy’n ganolog i’r achos yma. Byddwn yn awgrymu hefyd dy fod yn darllen adolygiad Toni Bianchi o’r wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg. Yr ymrwymiad yn nogfen Cymru’n Un oedd i gefnogi’r wasg yn ei chyfanrwydd a phapur dyddiol petai’n bodoli. Roedd cynllun Dyddiol Cyf yn gofyn am ymrwymiadau na allai ac na ddylai unrhyw lywodraeth eu haddo. [Fy ngorbwyslais i!]

Mae’r rhan fwyaf o’r hyn mae’n ei ddweud yn iawn, mae rhaid bod yn ofalus wrth wario arian cyhoeddus, ond mae’n rhaid ei fod yn darllen fersiwn wahanol i raglen llywodraeth Cymru’n Un na’r un sydd gen i. Dyma beth a ddarllenaf yn y fersiwn sydd ar wefan Llwyodraeth Cymru.

Byddwn yn cynyddu’r cyllid a’r gefnogaeth a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg.

Yn ail mae’n cyfeirio unwaith eto at gynllun busnes cwmni Dyddiol Cyf., ond nid dadl yw hon ynglŷn â chynllun busnes y cwmni, ond ynglŷn ag addewid a wnaed. Os yw’r gweinidog am beidio â chadw at addewid Plaid Cymru i fod yn “gwbl gefnogol” i’r ymgyrch i sefydlu papur dyddiol Cymraeg, neu i beidio â chadw at raglen llywodraeth Cymru’n Un i “sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg” yna dyweded hynny. Os taw natur a safon cynllun busnes Dyddiol Cyf. yw’r rheswm dros beidio â rhoi mwy nad £600,000 dros dair yn gymhorthdal i bapur newydd dyddiol Cymraeg yna esbonied a dyweded hynny. Ond peidied â chwarae gyda geiriau, peidied chwaith â chyhuddo pobol o anwybodaeth. Mae ‘na amgylchiadau yn codi lle nad yw’n bosib i rywun gadw at addewid, efallai taw dyna’r sefyllfa gyda sefydlu papur dyddiol Cymraeg, os felly gadewch inni gael gwybod. Os cawn ni esboniad sydd yn gwneud synnwyr yna bydda i’n fodlon ar hynny, oherwydd fe alla i ddadlau a yw’r esboniad neu’r penderfyniad yn un iawn. Ond pan mae rhywun yn mynnu dweud fod yr addewid a wnaed yn wahanol i’r addewid a wnaed, a bod y penderfyniad yn seiliedig ar adroddiad y Dr Tony Bianchi ond ei fod yn seiliedig ar gynllun busnes un cwmni a allai fod â diddordeb mewn gwneud cais am gymhorthdal ar gyfer cyhoeddi papur newydd dyddiol Cymraeg, yna mae pethau’n anodd.

Dwi’n teimlo’n gryfach nawr ynglŷn â sefydlu papur dyddiol Cymraeg nag yr oeddwn i cyn i Rhodri Glyn Thomas benderfynu fel y gwnaeth. Rhaid i mi gyfaddef fy mod ag amheuon am bapur newydd mewn byd newyddion sy’n prysur troi yn un cwbl ddigidol. Ond mae’r hyn yr ydym ni yn ei drafod nawr yn wahanol, sef sut y mae llywodraeth yn cyfathrebu ac yn ymwneud â’i hetholaeth pan ei bod yn gorfod wynebu’r ffaith iddi wneud addewid annoeth. Mae hynny’n fater pwysicach na phapur dyddiol; ond yr unig drafferth yng Nghymru yw nad oes gennym bapur dyddiol Cymraeg lle byddai’n bosib inni drafod materion fel hyn yn y lle cyntaf. Ble felly yr ydym i ddechrau.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (14 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.57 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Mwy am bapur dyddiol Cymraeg a chwarae gyda geiriau

  • Cytuno gant y cant â sylwadau dy baragraff olaf. Dyna fy nheimlad innau, yn union.

    Dalia ati, Dogfael.

  • Huw

    … ddim yn cofio darllen cynllun busnes sefydlu S4C na Radio Cymru chwaith.

    Lwcus mai Margaret Thatcher oedd yn rheoli yn 1982 ac nid RhG! Fydde Rhodri wedi dweud nad oedd yn y maniffesto i sefydlu sianel deledu wedyn wedi cynnig £2m ac yna dweud nad galw amdanno a bod cynllun busnes y Sianel yn wan – pwy fyddai’n talu i hysbysebu arno?!

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>