Daeth cyhoeddiad y gweinidog treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, ddechrau’r wythnos hon yn dipyn o sioc i mi. Nid dyna’r hyn yr oeddwn wedi disgwyl ei glywed. Oherwydd gwaith caled cwmni Dyddiol Cyf., ac yn arbennig Ned Thomas, mae’r sylfaen wybodaeth sydd wedi’i gosod ar gyfer sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn un gadarn. Pan fo’r cwmni hwnnw’n awgrymu bod angen rhyw £600,000 o nawdd yn flynyddol i wneud y gwaith dwi’n fodlon derbyn hynny. Dwi’n siŵr nad oes ond ychydig o fentrau yn y Gymru Gymraeg sydd erioed wedi gweld cymaint o ragbaratoi a braenaru’r tir. A’r hyn yr oedd eu rhagbaratoi yn dangos oedd bod angen lefel benodol o nawdd ar gyfer sefydlu papur dyddiol. Dwi ddim yn gwybod rhyw lawer am eu cynllun busnes, a phe bawn yn cael copi cyflawn byddwn i ddim yn medru gwneud pen na chwt ohono. Ond mae’n amlwg i bawb nad yw’r nawdd o £200,000 y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf (sef cyfanswm o £600,000) a gyhoeddodd Rhodri Glyn Thomas yn mynd i fod yn ddigon i sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg.
Ar yr olwg gyntaf mae £200,000 yn swnio’n hwb sylweddol i’r wasg newyddiadurol Gymraeg. Yn nyddiau’r cynni presennol mae’n swm anrhydeddus. Ond nid yw’n swm sy wedi’i roi mewn gwagle, mae gan y swm hwn hanes o’i ôl, a’r hanes hwnnw yw addewid etholiadol Plaid Cymru a gafodd le yn rhaglen Cymru’n Un y llywodraeth glymblaid. Mae’r addewidion yn ddigon plaen ac amlwg yn y ddogfen honno ac yn y maniffesto. Byddwn i’n fodlon dweud ei fod yn addewid diamwys. Fel hyn y mae’r maniffesto yn gosod y peth:
Bydd llywodraeth y Blaid yn gwbl gefnogol i’r ymgyrch i sefydlu papur dyddiol Cymraeg.
Mae’r rhaglen llywodraeth Cymru’n Un yn dweud:
Byddwn yn cynyddu’r cyllid a’r gefnogaeth a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg.
Ond o’i ddarllen drosodd a throsodd dwi’n dechrau gweld sut y gellid dehongli’r peth mewn modd mwy amwys. Roeddwn i wedi darllen y gosodiad fel dweud bod cynydd yn mynd i fod yn y cyllid a’r gefnogaeth i gylchgronau a phapurau newydd a bod hynny’n cynnwys sicrhau cyllid a chefnogaeth a fyddai’n meddwl sefydlu papur newydd dyddiol. Ond mae’n amlwg erbyn hyn bod yn rhaid darllen y peth fel cynyddu’r cyllid a’r gefnogaeth er mwyn mynd tamaid bach o’r ffordd yn nes tuag at sefydlu papur newydd dyddiol. O’i ddarllen felly byddai unrhyw gynydd yn ddigon i gadw’r addewid. A dyna a gafwyd, rhyw gynydd, nid yr hyn yr oedd ei angen ar gyfer sefydlu papur newydd dyddiol. Nid dyma’r fath o beth dwi’n ei weld fel bod “yn gwbl gefnogol i’r ymgyrch i sefydlu papur dyddiol Cymraeg”. Os nad yw bod mewn llywodraeth yn caniatáu ichi gadw at addewid felly does dim mwy y gellir ei wneud. Y swm anrhydeddus fyddai’r swm fyddai’n galluogi rhywun neu rywrai i wireddu’r addewidion a wnaed. Swm heb anrhydedd yw £200,000. Dyw e ddim yn llawer iawn yn llai na’r arian anghofiodd Peter Hain eu ddatgan wrth y Comisiwn etholiadol drwy amryfusedd!
Roedd hyn yn bendant yn siom, a nawr ddyddiau yn ddiweddarach mae’n troi’n raddol yn ddadrithiad. Dwi’n siŵr y bydd rhai yn fodlon iawn i’m cyhuddo i o naïfrwydd pur i gredu fod gwleidyddion yn mynd i gadw at eu haddewidion. Ond dwi’n credu y gallwn ddadlau pam fy mod yn credu fod yr addewid hwn yn mynd i fod yn wahanol. Roedd yn addewid gan lywodraeth oedd yn cynnwys gweinidogion Plaid Cymru am y tro cyntaf erioed, a rydw i’n falch iawn o’r ffaith honno. Roedd y gweinidog treftadaeth wedi sefyll o flaen cynhadledd flynyddol y blaid honno a chyhoeddi y buasai papur newydd dyddiol Cymraeg yn cael ei sefydlu lai na blwyddyn yn ôl. Ac ar ben hynny, ac mae hyn yn dangos cymaint cymhlethdod y taeog sydd ynom, doedd yr arian yr oedd galw amdano ar gyfer y bwriad yn ddim byd ond briwsion o’u cymharu â’r hyn yr oedd yn cael ei wario ar gynlluniau eraill. Petai swm o arian o’r fath yn cael ei wastraffu gan adran o’r llywodraeth ni fyddai’n haeddu mwy na throednodyn mewn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Byddai peidio â rhoi’r arian yr oedd ei angen i ddechrau ar fenter fel sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn siom o dan amgylchiadau eraill. Ond pan fo llywodraeth gyda Phlaid Cymru yn rhan ohoni yn methu â chadw at addewid pendant (o ddarllen geiriau’r addewid hwnnw yn eu hystyr amlwg) yna mae’n troi yn ddadrithiad. A’r hyn sy’n fwy torcalonnus na dim yw ei fod yn adlais pendant o’r ffordd yr oedd pethau’n cael ei wneud yng Nghymru o dan lywodraethau’r gorffennol. Mae hwn yn gyhoeddiad y gallasai Alun Pugh fod wedi’i wneud yn hawdd, neu hyd yn oed Nicholas Edwards. Mae blas y ffordd arferol o drin y Gymraeg yn drwm ar y cyhoeddiad. Gan na fyddem wedi bod yn barod i dderbyn datganiad o’r fath gan Nicholas Edwards heb godi’n llais, mae’n rhaid inni beidio â derbyn penderfyniad fel hyn gan Rhodri Glyn Thomas heb ddweud nad yw’n ddigon da.
Mae’r rhai gwangalon yn dweud ei bod yn well peidio â mentro heb wybod bod llwyddiant yn mynd i ddod. Dwi’n dweud y dylem fentro pan fo’r amgylchiadau’n iawn a bod yn onest a dweud y gall pethau fod yn llwyddiant neu’n aflwyddiant. Ond fel y mae bellach does neb ond ffŵl yn mynd i fentro i sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg pan fo llywodraeth Plaid Cymru hyd yn oedd yn methu gweld ei ffordd yn glir i gefnogi’r fenter yn iawn. A beth yw’r rhagolygon bellach am ddeddf iaith newydd?

![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)
Sylwadau 1
cytuno cant y cant Dogfael. Dyw’r Gymraeg ddim yn haeddu gormod ti’n gweld. Hei, ni’n lwcus i gael £200k dyna’r neges.
Dim digon o arian. Nonsens. Mae’r symiau’n bitw. Mae pobl Llywodraeth yn cefnogi’r hyn mae’n nhw’n gredu ynodd. Mae Llafur am hyrwyddo bri a phwysigrwydd Prydain, felly mae nhw’n gwario biliynnau ar Irac a’r Olympics. Mae Prydeindod yn egwyddor bwysig iddynt a phoeni am yr arian wedyn - wyt ti’n meddwl dweud wrtha’ i nad oedd Llafur wedi rhagweld y problemau ariannol sydd wrth gynnal yr Olympics yn Llundain?!
Yr egwyddor sy’n dod gyntaf. Mae £200k yn 0.2% o gyllideb S4C - mae’n ddim. Mae’n amlwg nad yw Plaid Cymru yn cytuno yn yr egwyddor o bapur newydd dyddiol Cymraeg. Fel ddywedodd Marc JOnes y newyddiadurwr ‘diduedd’ ar raglen Byd ar Bedwar (sydd yn gweithio i Blaid Cymru nawr - gwaith da gan y spin doctors, newyddiaduraeth gachu gan ITV) ‘ni wedi byw heb bapur dyddiol hyd yn hyn’. Ie, anhygoel. Wnaethon mi fyw heb lot o bethau ‘hyd yn hyn’ beth am fynd nol i’r Welsh Not.
Marc y taeog sydd ar Rhodri Glyn. Mae angen i’r Gymraeg gwybod ei lle a doedd ddim yn fodlon ymladd drosti pan oedd gofyn iddo.
Beth wir yw pwrpas cael Plaid Cymru mewn grym. Gallai Alun Pugh wedi gwneud yr union run cyhoeddiad.
Postiwyd 09 Chw 2008 am 12:37 ¶Tracio yn ôl & Pingio yn ôl 1
[...] fod wedi bod yn darllen fy mlog, yr hyn dwi’n ei olygu mewn gwirionedd yw ei fod wedi darllen un cofnod, sef yr hyn yr ysgrifennais am ei benderfyniad i ychwanegu £200,000 i’r grant y mae’r [...]
Gwneud sylw