Sylwadau pellach

Dwi ddim yn credu fy mod yn bradychu unrhyw gyfrinachau wrth ddweud fy mod i ar ochr Kate Crockett yn y ddadl fawr rhyngddi a Vaughan Hughes ar raglen Wythnos Gwilym Owen ddoe. Yn anffodus roedd hi’n amhosib i Ddogfael gymryd rhan gan ei fod yn treulio’r diwrnod mewn rhan ddiarffordd o’r wlad, ond mae’n amlwg o wrando ar y rhaglen trwy wasanaeth Gwrando eto BBC Radio Cymru nad oedd angen neb yno i gadw ochr Kate. Roedd hi’n amlwg ei bod hi wedi gweld datganiad sylfaenol Vaughan Hughes am ei hadolygiad, sef ei fod yn seiliedig ar ragfarn o blaid Angharad Tomos, fel ymosodiad ar ei safonau hi fel beirniad. Dwi’n credu taw’r hyn sydd wedi mynd ar goll yn y ddadl yw’r ffaith taw dim ond barn tri unigolyn oedd canlyniad cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen. Yn yr un modd dim ond barn tri fydd yn penderfynu pwy fydd yn ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn. Petai tri, neu dair arall a gwahanol wedi beirniadu’r un cystadlaethau mae’n siŵr y gallasai’r canlyniadau fod wedi bod yn gwbl wahanol. Mae dadl Vaughan Hughes mewn rhyw fodd yn awgrymu fod ‘na gytundeb cyffredin ar beth sy’n ‘dda’ a beth sy’n ‘ddrwg’ mewn llenyddiaeth a bod pawb o weld rhywbeth da yn siŵr o’i adnabod felly heb unrhyw amheuaeth ac mae unrhyw farn wahanol wedi’u hystumio gan ragfarn o ryw fath. Mae’r Athro Emeritws R M Jones wedi bod yn trafod rhywbeth tebyg yn ei erthyglau diweddar yn y cylchgrawn Barddas wrth edrych ar beth yw’r ‘canon’ a lle Syr Thomas Parry yn y gwaith o lunio canon llenyddiaeth Gymraeg. A yw hynny’n syniad dilys ar gyfer trafod llenyddiaeth? Wel, mae R M Jones yn dadlau achos yn arbennig o dda a ffraeth, ond dwi ddim yn siŵr fy mod yn cytuno’n llwyr gyda’r hyn mae’n ei ddweud. Cyhudda feirniaid cyfoes o ddilyn ffasiwn yr oes, ond ffasiwn rhyw oes y mae yntau yn ei dilyn hefyd. Nid oes un grŵp o feirniaid sydd yn mynd i fod yn iawn bob amser, yn fwy na ‘na grŵp arall sy’n mynd i fod yn anghywir. Nid dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd – mae’n siŵr fod y ddwy nofel sy wedi’u trafod, a nifer o’r gweddill a fu yn y gystadleuaeth, yn rhai gwerth eu darllen. Fel mae’n digwydd cefais i flas arbennig ar Wrth fy nagrau i, am ei bod hi’n nofel ‘dda’ ac nid achos ei bod hi’n ffrwyth dychymyg awdur penodol. Cymaint fy mwynhad o’r nofel mae wedi fy adennill yn ôl i’r ffurf ac wedi gwneud imi fod eisiau darllen nofelau eraill. Tipyn o gamp, fel y gŵyr y rhai sy’n f’adnabod yn iawn.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5 allan o 5)

Gwneud sylw

Ni chaiff dy gyfeiriad e-bost fyth mo'i gyhoeddi na'i rannu. Nodir y meysydd hanfodol gyda *