Teimlo’n falch o fy hunan
Dwi’n gwybod nad oes dim byd yn fwy diflas na gwrando ar rywun sy’n falch o’u hunain yn clochdar eu llwyddiannau’n ddi-baid. Ond dwi’n ofni taw dyna dwi’n mynd i wneud. Dwi mor falch o fy llwyddiant technolegol dros y penwythnos fel fy mod i am i bawb glywed amdano. Mae gen i hen liniadur araf sy’n ymddangos yn fwy araf byth am fod un o sustemau gweithredu Microsoft Windows arno yn tagu’n gyson. Felly mewn ymgais i roi bywyd newydd yn y peiriant fe benderfynais lwytho un o fersiynau o’r sustem weithredu Linux arno yn lle Windows. Gan ei fod yn beiriant reit hen fe ddewisais i lwytho Xubuntu, fersiwn ysgafnach o’r enwog Ubuntu. Felly dyma lwytho’r cyfan i lawr o’r wefan, llosgi CD gyda’r feddalwedd a’i redeg ar y gliniadur. Fe wnes i arbrofi gyda rhedeg y feddalwedd o’r CD am ychydig oriau er mwyn ceisio dod yn gyfarwydd gyda’r sustem weithredu. Roedd hynny’n rhoi rhyw fath o syniad imi beth i’w ddisgwyl. Ond oherwydd fod y peiriant yn darllen yn gyson o’r CD roedd hynny braidd yn araf. Felly dyma benderfynu ei lwytho ar y peiriant ei hun. Penderfynais gael gwared o sustem Windows yn gyfan gwbl a dim ond byw gyda Xubuntu. Ar y tro cyntaf o’i lwytho cefais ychydig drafferth. Rhewodd y llwythiad gyda rhyw 10% i fynd. Dyma gychwyn y peiriant a dim byd yn digwydd! Anadlu’n ddwfn, peidio â phanicio. A dyma fi’n troi ati unwaith eto i lwytho’r feddalwedd. Aeth popeth yn iawn. Ailgychwyn y peiriant. Sgrin dywyll ddu. Aros. Aros. Ac yna’n sydyn dyma Xubuntu yn ymddangos, ac yn gweithio, ac yn medru tiwnio mewn i fy nghysylltiad di-wifr. Roeddwn i mor hapus fel dyma fi’n dawnsio rhyw jig fechan o gwmpas y gegin. Yna mynd ati i arbrofi i weld beth na allwn ei wneud gyda Linux. Dwi’n falch o ddweud taw ychydig iawn iawn o bethau yw’r ateb. Dwi’n dal i ddysgu, ond dwi’n dal yn falch iawn gyda’r canlyniadau hyd yn hyn. Cawn weld sut fydda i’n teimlo erbyn diwedd yr wythnos.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Go dda ti, byddwn i”r un mor falch fy hunan. Ceisiais lwytho copi Linux oddi ar CD-ROM gan Meddal o Eisteddfod Casnewydd, ond lwyddes i ddim a dwi braidd yn rhy gyflym yn rhoi gorau i bethau.
Er bod sawl blogiwr Cymraeg arall wedi crybwyll pa mor hawdd/di-draffeth yw good y gwahanol fersiynnau Linux, dwi wastad yn meddwl ‘digon hawdd i chi ddweud, chi’n dallt y pethau yma’. Neis darllen am rhywun ‘cyffredin’ sydd wedi llwyddo hefyd!
Go dda! Gad i ni wybod sut aiff hi yn arbennig o ran defnyddio meddalwedd arno. Dwi’n cael y nhemtio i wneud hyn fy hun, ond chydig yn bryderus o wneud smonach o bethau.
Rhodri, dyna’n gywir sut roeddwn i’n teimlo am lwytho ffurf ar Linux; petai rhywbeth yn mynd o’i le byddwn i heb unrhyw ffordd o ddatrys y broblem gan fy mod i wedi cael gliniadur heb ddisgiau sustem am ei fod yn ail-law. Ond yn y diwedd roedd arafwch y peiriant yn pery’r fath rwystredigaeth fel fy mod wedi penderfynu gwneud hyn gan nad oedd gen i ddim i’w golli mewn gwirionedd. Dwi’n dal i fod wrth fy modd gyda’r hyn dwi’n medru ei wneud gyda Xubuntu. Dwi’n siŵr o flogio am hyn cyn bo hir.
Llongyfarchiadau! Wir i chi – mae gosod linux dyddiau hyn yn gymaint haws na gosod (neu uwchraddio hyd yn oed) Windows, heb sôn eich bod yn cael holl y pecynnau ychwanegol ar yr un pryd. (yn teipio hwn ar fy laptop linux ar y trên yn pasio drwy Caersws…)