Mwy am sylwadau

Diolch am dy sylwadau Garn, ac am dy sylw pryfoclyd Dafydd ar y cofnod Sylwadau ar sylwadau. Nadw, dwi ddim wedi darllen pob un llyfr sy’n gymwys ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2008. Ond dwi ddim yn credu nad yw hynny’n meddwl y galla i gredu fod un gyfrol yn deilwng o’r wobr ac y dylai ei hennill. Dyw hynny ddim yn golygu fy mod i’n meddwl nad oes ‘na gyfrolau eraill sy’n deilwng o’i hennill yn ogystal ag Wrth fy nagrau i. O edrych ar y rhestr ar wefan Academi mae’n ddigon posib fod ‘na nifer o gyfrolau ar y rhestr llyfrau cymwys sy’n deilwng o’r wobr. Boed i’r rhai sydd wedi’u darllen fynegi eu barn hwythau. Pan wnes i ddweud fy mod yn credu fod cyfrol Caryl Lewis Martha Jac a Sianco yn deilwng o Lyfr y Flwyddyn dwi ddim yn credu fy mod i wedi darllen hyd yn oed hanner y llyfrau cymwys ar gyfer y gystadleuaeth y flwyddyn honno chwaith. Nid gosodiad fforensig oedd fy nghred y dylai Wrth fy nagrau i ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn, yn hytrach dull o fynegi fy mhrofiad i o ddarllen y nofel a’i chael yn ddarllenadwy, difyr, doniol a dwys, clyfar, a llawn dyfeisgarwch. Nawr dwi ddim yn teimlo fel ‘na ar ôl darllen pob nofel neu lyfr arall o bell ffordd; felly cyfrwng i fynegi hynny oedd dweud y dylai’r nofel ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn.

I’r rhai sydd â diddordeb dyma’r llyfrau cymwys ar gyfer Gwobr 2008 dwi wedi’u darllen, wedi dechrau eu darllen ond heb eu gorffen, neu wedi ceisio eu darllen cyn rhoi’r gorau iddi ar ôl ychydig dudalennau.

  • Tony Bianchi, Pryfeta, Y Lolfa
  • Daniel Davies, Gwylliaid Glyndwr, Y Lolfa
  • Dai Rees Davies, Y dwys a’r digri, Barddas
  • Roy Davies, Coeliwch neu beidio : hunangofiant, Gwasg Gomer
  • Twm Elias, Tro drwy’r tymhorau : almanac o wyliau a dathliadau’r flwyddyn, Gwasg Carreg Gwalch
  • Cledwyn Fychan, Pwy oedd Rhys Gethin? : yr ymchwil am gadfridog Owain Glyndwr, Cym Lyfrau Ceredigion
  • Arfon Gwilym, Cerddoriaeth y Cymry, Y Lolfa
  • Ian Gwyn Hughes, Gweld Sêr: Pêl-droedwyr gorau Cymru o’r 60au hyd heddiw, Gwasg Gomer
  • Jerry Hunter, I ddeffro ysbryd y wlad: Robert Everett a’r ymgyrch yn erbyn caethwasanaeth Americanaidd, Gwasg Carreg Gwalch
  • Dylan Iorwerth, Gohebydd yng Ngheredigion yn ystod y flwyddyn fawr : hanes John Griffith (Y Gohebydd) ac etholiad 1868, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
  • E. Wyn James, Glyndwr a gobaith cenedl, Cym Lyfrau Ceredigion
  • David Jenkins, Ar lafar, ar goedd, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf
  • Gwyn Jenkins, Prif weinidog answyddogol Cymru: cofiant Huw T. Edwards, Y Lolfa
  • Bethan Wyn Jones, Natur y flwyddyn, Gwasg Gomer
  • Ceri Wyn Jones, Dauwynebog, Gwasg Gomer
  • Jon Meirion Jones, Y llinyn arian, Cyhoeddiadau Barddas
  • Llion Jones, Pethe achlysurol, Cyhoeddiadau Barddas
  • Watcyn L. Jones, Cofio Capel Celyn, Y Lolfa
  • Caryl Lewis, Y gemydd, Y Lolfa
  • Iwan Llwyd, Hanner cant, Gwasg Taf
  • Mihangel Morgan, Cestyll yn y cymylau, Y Lolfa
  • Jenny Ogwen, Glaw a hindda, Gwasg Gomer
  • Mary Annes Payne, Rhodd mam, Gwasg Gomer
  • John Roberts, Yr helygen gam, Gwasg y Bwthyn
  • Gwyn Thomas, Teyrnas y tywyllwch, Cyhoeddiadau Barddas
  • Angharad Tomos, Wrth fy nagrau i, Gwasg Carreg Gwalch
1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Mwy am sylwadau

  • Rhys, dwi’n credu dy fod yn iawn i gael siom nad yw cyfrol wych Richard Wyn Jones ar syniadaeth Plaid Cymru, Rhoi Cymru’n gyntaf, yn cael ei hystyried ar gyfer y gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. Mae gwefan Academi yn darparu canllawiau ar gyfer beth sy’n gymwys ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn, ond o’u darllen dwi’n methu’n deg penderfynu a yw Rhoi Cymru’n gyntaf yn gymwys. Ond os yw llyfr yn gymwys a yw’n rhaid i’r cyhoeddwr gyflwyno’r gyfrol yn ffurfiol ar gyfer y gystadleuaeth yn ogystal? Yn anffodus, Rhys, o ddarllen y canllawiau mae’n amlwg taw gwobrwyo llyfrau ‘arty’ yw’r bwriad, wedi’r cyfan Academi, yr asiantaeth er hyrwyddo llenyddiaeth, yw noddwyr y wobr. Efallai bod angen i gorff arall noddi gwobr ar gyfer llyfrau nad ydynt yn ‘arty’ ond yn academaidd. Mae gen i ryw gof fod gwobr o’r enw Gwobr Goffa G J Williams yn bodoli, ond dwi ddim yn gwybod yn iawn am beth yr oedd yn cael ei dyfarnu, ond roedd gen i ryw syniad ei bod hi’n wobr am gyhoeddiad hanesyddol neu academaidd. Efallai bod rhywun yn gwybod mwy na fi am hyn.

  • Mae’r RHAID bod llyfr Richard Wyn Jones in the running – maen gyfrol anhygoel o dda i gychwyn ac maen ryddiaith wych. Ond yn fwy arwyddocaol mae Richard wedi bod yn gyfrifol am gyhoeddi’r gyfrol syniadaethol gyntaf yn y Gymraeg ers blynyddoedd lawer, deng-mlynedd a mwy bid siwr. Dydy ei lyfr heb gael y sylw maen haeddu a hynny oherwydd mae dim ond pethau llenyddol ac efallai hanesyddol sy’n dwyn sylw pobl arty – does dim digon o stumog a gutts gan bobl arty Cymru i stumogi cyfrol ar syniadaeth er fod cyfrol Richard yn darllen yn ysgafn iawn ac ei fod, ar y cyfan, yn trafod syniadaeth boblogaidd ac ysgafn sef cenedlaetholdeb.

    Llyfr arall sydd heb gael sylw teilwng eleni yw cyfrol orchestol Robert Pope, Lloffion ym Maes Crefydd. Unwaith eto yn gyfrol syniadaethol ac felly yn debygol o gael ei anwybyddu gan y bobl arty. Hwn eto yn gyfrol hynod bwysig oherwydd ei fod yn gyfroil sy’n trafod syniadaeth ddiwinyddol, y cyntaf yn y Gymraeg ers rhyw ugain mlynedd gan fod crefyddwyr wedi bod yn baglu-dros eu hunain i lunio cyfrolau hanesyddol a dim byd arall yn hytrach na rhai syniadaethol/diwinyddol er ugain mlynedd a mwy.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>