Sylwadau ar sylwadau

Wrth fy nagrau iDwi’n teimlo fy mod wedi derbyn tipyn o anrhydedd yr wythnos hon. Nos Wener yn y cwis yng Nghlwb Golff Capel Bangor gofynnodd GH, un o’r cystadleuwyr, a oeddwn i wedi darllen Y Cymro yr wythnos honno. Yr ateb onest oedd nad oeddwn wedi’i brynu hyd yn oed, ond wnaeth y sefyllfa ddim aros fel ‘na am hir oherwydd dywedodd GH wrtha i fod neb llai na Vaughan Hughes yn crybwyll Blog Dogfael mewn erthygl ar nofel Angharad Tomos, Wrth fy nagrau i. Er mwyn cadarnhau a pharhau â’r gred bod blogwyr wrth natur a greddf yn gwbl hunan ganolog roedd yn rhaid imi gael golwg ar beth oedd gan Vaughan Hughes i’w ddweud cyn gynted â phosib. Rhodd y sylwadau wên ar fy wyneb!

Mae cael ymateb i’r hyn yr ydych yn ei ysgrifennu mewn print yn beth prin iawn, mae’n brinnach fyth ar y We fyd eang. Felly roeddwn i yn ei chyfrif yn anrhydedd i gael fy nyfynnu a derbyn canmoliaeth yn yr erthygl – diolch am hynny mae’n galondid. Roedd Vaughan Hughes yn cyfeirio at fy sylwadau i, adolygiad Kate Crockett ar wefan gwales.com, ac adolygiad Debbie Williams yn Barn. Synnai bod y tri ohonom mor hael ein canmoliaeth a sut yn y byd mawr y gallai ein barn ni fod mor wahanol i un beirniaid cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen. Roedd y nofel wedi’i chyflwyno fel rhan o’r gystadleuaeth honno yn Eisteddfod Yr Wyddgrug 2007 ac heb dderbyn rhyw lawer iawn o ganmoliaeth ganddynt hwy.

Damcaniaeth Vaughan Hughes yw taw’r ffaith fod yr ymgeiswyr yn y gystadleuaeth yn cystadlu o dan ffugenw oedd yn gyfrifol am y sefyllfa hon. O wybod taw Angharad Tomos oedd awdur Wrth fy nagrau i roedd y tri ohonom yn teimlo na allem feirniadu ei gwaith o gwbwl: “Cymaint yw edmygedd carfan o’r Cymry i unplygrwydd ac aberth Angharad Tomos yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith fel eu bod nhw wedi ei dwyfoli, bron. Ai am nad oedd y beirniaid yn gwybod eu bod nhw’n cloriannu gwaith eicon cenedlaethol y teimlai’r tri, yn annibynnol ar ei gilydd, mai’r ail ddosbarth oedd lle’r nofel hon?”

Mae’n gwestiwn digon teg i’w ofyn ac mae Vaughan Hughes yn cydnabod fy mod wedi holi’r cwestiwn hwnnw i fi fy hun. Dwi ddim yn adnabod Debbie Williams o gwbwl, dwi yn adnabod Kate Crockett, ond doeddwn i ddim wedi siarad gyda hi am y nofel o gwbwl. Daeth y tri ohonom ni i’r un casgliad heb gyd-drafod o gwbwl.

Ers darllen Wrth fy nagrau i dwi wedi bod yn holi rhai cwestiynau fy hun ynglŷn â’r nofel wrth hwn a’r llall. A yw’r fersiwn a gyhoeddwyd yn wahanol iawn i’r un a gyflwynwyd yn y gystadleuaeth? A gafodd y llyfr ei olygu i’r fath raddau nes ei drawsnewid o fod yn un ail ddosbarth i fod yn llyfr dosbarth cyntaf? Nid wyf wedi derbyn atebion i’r cwestiynau hyn, ac felly yr wyf yr un mor awyddus â Vaughan Hughes i geisio deall pam y gwahaniaeth barn.

Mae rhyw elfen o wirionedd yng ngosodiad Vaughan Hughes mae’n siŵr. Dwi’n adnabod Angharad Tomos yn ddigon da i mi ystyried ei theimladau. Petawn i yn credu taw nofel wael yn perthyn i’r ail ddosbarth oedd Wrth fy nagrau i rhaid cyfaddef na fuaswn wedi dweud hynny ar godd ond mewn modd cwbl gyffredinol; yn hytrach cau fy ngheg fuaswn i wedi’i wneud a gadael i’r peth fod heb wneud unrhyw sylw. Gweithred dwp fuasai canmol nofel wael; ond oherwydd fy mod yn credu taw nofel y dosbarth cyntaf yw hi y gwnes i ysgrifennu’r hyn a ysgrifennais. Mae hon yn nofel benigamp. Y tro diwethaf imi deimlo fel hyn ar ôl darllen nofel oedd pan wnes i orffen Martha Jac a Shianco gan Caryl Lewis. Bryd hynny fe wnes i fentro dweud y dylai nofel Caryl Lewis ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn a dwi’n dweud yr un peth eto am nofel Angharad Tomos.

Byddwn i’n gofyn i Vaughan Hughes ystyried un peth arall wrth drafod fy sylwadau. Gan fy mod yn adnabod Angharad Tomos yn ddigon da i ystyried ei theimladau wrth drin a thrafod ei gwaith, gallaf ddweud hefyd fy mod yn ei hadnabod yn hen ddigon da i beidio â’i dwyfoli chwaith!

Dyma beth oedd gan Vaughan Hughes i’w ddweud yn Y Cymro 2008-01-25. Dwi’n gobeithio y caf faddeuant am ei ddyfynnu’n llawn - os yw’n peri tramgwydd fy mod yn gwneud hyn cysylltwch gyda mi ac fe fyddaf yn tynnu’r cwbl cyn gynted â phosib.

Nofel a fethodd gyrraedd y dosbarth cyntaf yn gwirioni adolygwyr. Pam?

Yn y wasg, ac ar y we, proffwydir bod nofel ddiweddaraf Angharad Tomos yn haeddu ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni. Ond yn yr ail ddosbarth y gosodwyd y nofel yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen ym Mhrifwyl 2007. VAUGHAN HUGHES sy’n dyfalu pam.

Ymddangosodd ‘Wrth fy Nagrau I’ ym mis Rhagfyr y llynedd ac eisoes rydw i wedi darllen tri adolygiad ohoni. Beth sy’n nodweddu’r adolygiadau hynny yw edmygedd yi” adolygwyr o’r awdur, a’r croeso diamod a estynnir i’r nofel. Canmolir hi i’r cymylau.

Mewn adolygiad yn Barn mae Debbie Williams yn clodfori’r “iaith gyfoethog”, a’r “perlau o ddisgrifiadau” sy’n cyfuno ” i greu nofel wreiddiol, sensitif, a hynod ddarllenadwy.” Ond bron nad yw’r ganmoliaeth hael honno’n grintachlyd o’i chymharu ag adolygiad Kate Crockett a gyhoeddwyd ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru, ac yn Y Cymro.

Dyma, meddai Ms.Crockett, “nofel gignoeth o onest” gan “feistr ar ei chrefft”. Tu hwnt a thu draw i hynny, hawlia’r adolygydd mai un gair yn unig sy’n gallu gwneud cyfiawnder a’r nofel hon. Y gair hwnnw yw - “Camp-waith”. Does dim rhyfedd, felly, ei bod hi’n darogan y bydd ‘Wrth fy Nagrau I’ yn ymgeisydd peryglus am wobr Llyfr y Flwyddyn eleni.

Ond mae Lyn Lewis Dafis yn mynd gam ymhellach na hynny, hyd yn oed. Fo yw awdur Blog Dogfael, y “golofn” Gymraeg orau , mentraf awgrymu, sy’n ymddangos yn unman y dyddiau hyn. (blogdogfael.org). Ar ô1 mynegi ei werthfawrogiad perlesmeiriol o’r dwyster a’r doniolwch a ganfu yn nofel Angharad Tomos, daw Dogfael i’r casgliad hwn: “Mae’n rhaid i’r nofel hon fod ar y rhestr ar gyfer Llyfr y Flwyddyn eleni; ond yn fwy na hynny dwi’n credu y dylai ennill y wobr.”

Rwan does yr un o’r adolygwyr hyn yn cyfeirio at y ffaith bod tri beirniad arall, sef beirniaid prif gystadleuaeth y nofel yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a’r Cyffiniau, hefyd wedi bod yn dwys ystyried ‘Wrth fy Nagrau I’. Efallai nad oedd Debbie Williams, Kate Crockett a Dogfael yn sylweddoli bod y nofel hon wedi cael ei gwrthod yn llwyr ar gyfer medal y Daniel a’r wobr ariannol o £5000. Dwn i ddim. (Ond rydw i wastad wedi amau bod gan y Cyfansoddiad ati fwy o brynwyr nag o ddarllenwyr…)

Er nad ydw i’n ddigon gwirion i feddwl bod beirniaid y Brifwyl yn fodau anffaeledig, rydw i’n credu y dylid gofyn yn ystyriol pam bod y fath agendor o wahaniaeth barn rhwng beirniaid y Brifwyl ac adolygwyr y cyfryngau print ac electronaidd. Nid oedd yr un o feirniaid swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhestru nofel Angharad Tomos ymhlith y rhai a ddaeth yn agos at frig y gystadleuaeth.

Yn nosbarth 2(b) y gosodwyd hi gan Annes Glynn. Yn nosbarth 2 (a) y gosodwyd hi gan Robat Arwyn. Yn nosbarth 2 (heb lythyren) y gosodwyd hi gan Harri Pritchard Jones. Nid oedd yr un o’r tri beirniad ychwaith yn argymell y dylid cyhoeddi’r nofel, sef yr hyn sy’n digwydd fel rheol yn achos ymgeiswyr anfuddugol o safon uchel.

Y fi fyddai’r olaf i ddadlau o blaid unffurfiaeth barn. Ond mae’r math hwn o anghytundeb yn fy mhryderu’n arw. Yn unol a rheolau adran gyfansoddi’r Eisteddfod roedd Angharad Tomos wedi cystadlu dan ffug enw, sef Fama. A’r Eisteddfod yn yr Wyddgrug , nid nepell o Foel Famau, dyma ymgais anrhydeddus ar ran merch o Eryri i daflu llwch i lygaid y beirniaid. Fe lwyddodd yn amlwg.

Wrth gwrs, pan gyhoeddwyd y nofel roedd pawb yn gwybod pwy oedd yr awdur. A dyna ddod a ni at y cwestiwn mawr. Cymaint yw edmygedd carfan o’r Cymry i unplygrwydd ac aberth Angharad Tomos yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith fel eu bod nhw wedi ei dwyfoli, bron. Ai am nad oedd y beirniaid yn gwybod eu bod nhw’n cloriannu gwaith eicon cenedlaethol y teimlai’r tri, yn annibynnol ar ei gilydd, mai’r ail ddosbarth oedd lle’r nofel hon?

Yn arwyddocaol, er mor ganmoliaethus yw Lyn Lewis Dafis o ‘Wrth fy Nagrau I’ mae ganddo’r gras a’r crebwyll i amau ei hun: ” Ydw i’n gor-ddweud? Ai am fy mod yn adnabod yr awdur yr wyf mor barod fy nghanmoliaeth? Wel, dwi’n gobeithio nad dyna’r rheswm. Yr unig ffordd i fod yn siŵr yw mynd ati i ddarllen y nofel eich hunan.” Ie’n hollol.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5 allan o 5)

Sylwadau 3

  1. Dafydd Morgan Lewis sy wedi dweud:

    Os methodd beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen a gweld unrhyw rinwedd arbennig yn nofel Angharad Tomos nid rhywbeth a ddigwyddodd am y tro cyntaf fyddai hynny. Yn wir fe ddigwyddodd yr un peth yn 1984 pan fethodd beirniaid y Fedal Ryddiaith a gweld rhagoriaeth ‘Yma o Hyd’. Erbyn hyn fe ystyrir y gyfrol honno yn un o nofelau mwyaf arwyddocaol ei chyfnod. Credaf fod beirniaid prif gystadleuthau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn methu’n aml, a’r beirniaid yng nghystadleuthau Llyfr y Flwyddyn hefyd. Ond mae’n dda fod cystadleuthau fel hyn ar gael pe ond i greu trafodaeth. Yn anffodus mae trafodaethau o’r fath yn rhywbeth hynod o brin yn y Gymraeg.

    Credaf fod “Wrth fy Nagrau i’ yn nofel ragorol iawn, y gorau i Angharad ei hysgrifennu ers tro byd. Credaf i feirniad cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen 2007 wneud clamp o gamgymeriad. Ond gan fy mod yn ffrind i Angharad rwyf wedi bod yn gyndyn iawn i ddweud hyn yn gyhoeddus. Ond y gwir amdani yw y byddwn yn cau fy ngheg pe credwn yn wahanol.

    Postiwyd 29 Ion 2008 am 10:14
  2. Garn sy wedi dweud:

    Rwyf finnau wedi darllen nofel Angharad Tomos, ac wedi’i mwynhau yn fawr iawn. Ond mae un peth yn fy mhyslo am sylwadau Dogfael. Ar wefan yr Academi, fe nodir 52 o lyfrau 2007 fel rhai cymwys i’w hystyried ar gyfer y wobr, gan gynnwys 16 o nofelau. A yw Dogfael wedi darllen pob un o’r llyfrau hyn? Os na, sut y gall fod mor gwbl sicr mai Wrth fy Nagrau I sy’n haeddu’r wobr. Wrth gwrs y mae’n dderwydd, ac efallai mai hynny sydd i gyfrif am ei sythwelediad!

    Postiwyd 29 Ion 2008 am 16:17
  3. Dafydd sy wedi dweud:

    … wel , ie Dogfael!!

    Postiwyd 30 Ion 2008 am 0:16

Tracio yn ôl & Pingio yn ôl 1

  1. From Blog Dogfael - Mwy am sylwadau ar 31 Ion 2008 at 8:58

    Diolch am dy sylwadau Garn, ac am dy sylw pryfoclyd Dafydd ar y cofnod Sylwadau ar sylwadau. Nadw, dwi ddim wedi darllen pob un llyfr sy’n gymwys ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2008. [...]

Gwneud sylw

Ni chaiff dy gyfeiriad e-bost fyth mo'i gyhoeddi na'i rannu. Nodir y meysydd hanfodol gyda *