Dydd Sadwrn roeddwn i yn Eglwys y Santes Fair ar gyfer gwasanaeth angladd un o’r aelodau. Fore Sul yr oeddwn yn ôl yn yr eglwys ar gyfer gwasanaeth y Cymun Bendigaid. Yn y nos yr oeddwn i’n pregethu yno hefyd, ond nid fi oedd yn arwain y gwasanaeth; Adrian Morgan, myfyriwr ymchwil yn yr Adran Gymraeg, oedd yn gwneud hynny. Roeddwn i’n pregethu ar un o’r darlleniadau a osodwyd ar gyfer y diwrnod gan yr Eglwys yng Nghymru, sef 1 Pedr 1.3-10. Y thema oedd Gobaith Cristnogol.
Dyma’r darn a oedd yn destun i’m pregeth allan o lythyr cyntaf Pedr fel y mae’n darllen yng nghyfieithiad beibl.net.
Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi bod mor drugarog aton ni. Mae’n ddechrau cwbl newydd! Dyn ni wedi cael ein geni unwaith eto! Ac am ei fod wedi codi Iesu Grist yn ôl yn fyw dyn ni’n edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol. Mae gan Dduw etifeddiaeth i’w rhannu gyda’i blant fydd byth yn darfod, nac yn difetha nac yn diflannu. Mae’n ei chadw ar eich cyfer chi yn y nefoedd! Bydd y Duw nerthol yn eich amddiffyn chi nes byddwch chi’n cael eich achub yn derfynol, am eich bod chi’n credu ynddo. Bydd pawb yn gweld hynny’n digwydd pan fydd y foment olaf yn cyrraedd a’r byd yn dod i ben. Felly gallwch fod yn llawen, er bod pethau’n anodd ar hyn o bryd, a’ch bod chi’n gorfod dioddef pob math o dreialon. Mae’r pethau yma’n digwydd er mwyn dangos eich bod chi’n credu go iawn. Mae’r un fath â’r broses o buro aur mewn ffwrnais, ond bod ffydd yn rhywbeth llawer mwy gwerthfawr nag aur. Byddwch yn derbyn canmoliaeth, ysblander ac anrhydedd pan fydd Iesu Grist yn dod i’r golwg eto. Dych chi erioed wedi gweld Iesu, ac eto dych chi’n ei garu e. Dych chi’n credu ynddo er eich bod chi ddim yn ei weld ar hyn o bryd. A dych chi wedi’ch llenwi â rhyw lawenydd cwbl wefreiddiol sy’n amhosib i’w ddisgrifio. Canlyniad credu ynddo yn y pen draw ydy y byddwch chi’n cael eich achub yn derfynol!
Roedd y proffwydi’n sôn am yr achubiaeth oedd i’w rhoi yn rhodd i chi. Buon nhw’n edrych yn fanwl i’r cwbl, ond heb ddeall popeth. Roedd yr Ysbryd oedd gyda nhw wedi dweud wrthyn nhw ymlaen llaw am beth fyddai’r Meseia yn ei ddioddef ac am yr holl bethau ffantastig fyddai’n digwydd wedyn. Ond beth yn union oedd Ysbryd y Meseia’n cyfeirio ato? Pryd fyddai’r cwbl yn digwydd? Esboniwyd iddyn nhw fod y pethau hynny ddim yn mynd i ddigwydd yn eu cyfnod nhw, ond yn y dyfodol, yn ein cyfnod ni. A bellach mae’r cwbl wedi ei rannu gyda chi gan y rhai sydd wedi dod â’r newyddion da i chi, gyda nerth yr Ysbryd Glân gafodd ei anfon o’r nefoedd. Mae’r angylion hyd yn oed yn ysu am gael deall y pethau hyn yn well.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael