Dwi’n falch o ddweud nad oedd y penwythnos yn un rhy brysur. Roedd digon i’w wneud, ond roeddwn i’n teimlo fy mod â phopeth o dan reolaeth (bron â bod!). Nos Wener fe fues i mas yng Nghlwb Golff Capel Bangor, nid i chwarae golff, ond er mwyn bod yn gwis feistr mewn cwis wedi’i drefnu gan gangen Bro Dafydd o Blaid Cymru. Doeddwn i erioed wedi bod yng Nghlwb Golff Capel Bangor o’r blaen ond gan ei bod hi’n dywyll wrth inni gyrraedd ni chefais gyfle i weld rhyw lawer o’r wlad o gwmpas. Roedd yr adeilad ei hun yn drawiadol o fawr gydag un ystafell enfawr. Doedd dim angen ystafell cweit mor fawr i gynnal y noson, ond fe gafwyd amser da. Roedd ‘na ryw ugain wedi dod ynghyd ac fe ddywedodd pawb eu bod wedi mwynhau. Yn fy marn i roedd popeth wedi mynd yn iawn heblaw am y rownd gyntaf oll ar y newyddion. Roedd fy nisgwyliadau i yn llawer rhy uchel. Dwi’n gobeithio nad oedd wedi difetha gweddill y noson. Roeddwn i wedi cymryd diwrnod o wyliau ac am ryw reswm wedi bod yn chwilio’n llawer rhy fanwl ar wefannau newyddion y BBC, Western mail, Independent a’r Guardian. Does gan y rhan fwyaf ddim mo’r hamdden i wneud hynny – does gen i ddim fel arfer!


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael