Siopau llyfrau da?

Beth sy’n gwneud siop lyfrau dda yn un wych? Wel i mi mae’n rhaid i siop gynnig cyfuniad o wasanaethau gwahanol i fynd i ar dop fy rhestr. Rhaid bod y siop yn cadw dewis o lyfrau sy’n cynnwys llyfrau nad ydw i’n eu gweld nhw bob dydd mewn pentyrrau enfawr yn y siopau unffurf hynny sy’n drwch bellach (Jamie Oliver, Alan Bennet, Trinny & Susannah, &c.) Yn ail mae’n rhaid bod digon o le i droi yn y siop, hynny yw bod y siopwr yn dangos parch i bobol a chwsmeriaid yn ogystal â llyfrau. Yn olaf, mewn siop lyfrau berffaith, mae ‘na le i eistedd ac yfed paned da o goffi. Prin yw’r siopau llyfrau yng Nghymru sy’n cynnig yr ydw i’n ei chwilio amdano i mi, ond mae ‘na rai sy’n cynnig cyfuniadau o ddau o’r elfennau; ond nid y cyfan.

Siop lyfrau Borders, Glasgow

Y rheswm fy mod i wedi bod yn meddwl am siopau llyfrau oedd bod y Guardian wedi cyhoeddi rhestr o’r 10 siop lyfrau orau (“the fairest” oedd y disgrifiad yn y papur) yn y byd rhyw wythnos yn ôl. Yn rhyfedd roedd tair siop yr oeddwn i wedi ymweld â hwy ar y rhestr (sy’n dangos pa mor Ewrop-ganolog oedd y rhestr mewn gwirionedd) – Borders, Glasgow; Posada, Brwsel; Hatchards, Llundain. Dyma’r rhestr gyflawn o’r Guardian.

1. Boekhandel Selexyz Dominicanen, Maastricht
2. El Ateneo, Buenos Aires
3. Livraria Lello, Porto
4. Secret Headquarters, Los Angeles
5. Borders, Glasgow
6. Scarthin Books, Derbyshire
7. Posada, Brussels
8. El lugar de la Mancha, Dina Mexico
9. Keibunsya, Kyoto
10. Hatchards, Llundain

Tybed pa enwau fyddai ar y rhestr o siopau llyfrau gorau Cymru?

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.33 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Siopau llyfrau da?

  • Mae Palas Print yng Nghaernarfon yn cael pleidlais gen i. Mewn llyfryn diweddar gan y Guardian yn nodi siopau gorau Prydain mewn categoriau gwahanol, roedd yn un o ddwy yn unig o siopau llyfrau Cymru i gyrraedd y nod.
    Da iawn Eirian a Sel, a daliwch ati!

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>