Wythnos weddi am undod Cristnogol 2008

Y Parchg Roy Cooper, Llywydd Eglwys Fethodistaidd yn Iwerddon yn pregethu yn Bethel, Ty-cwrdd y Bedyddwyr, AberystwythEfallai na fyddwn i am roi’r argraff fy mod wedi bod mewn eglwys neu gapel am y rhan helaethaf o’r penwythnos rhag ofni iddo wneud tolc go fawr yn fy street cred; ond dwi’n ofni taw dyna’r gwir! Heblaw am wasanaeth offeren requiem John Fitzgerald bues i yng ngwasanaeth Cymun Bendigaid am 8.00am fore Sul yn Eglwys y Santes Fair ac yna yn y gwasanaeth i deulu’r eglwys am 10.00am. Ond fel na fyddai hynny’n ddigon fe fues i mewn gwasanaeth arbennig yn nhŷ-cwrdd y Bedyddwyr, sef Bethel, Stryd y Popty. Yr hyn oedd yn denu eglwyswr o argyhoeddiad yn ôl at ei wreiddiau oedd y ffaith ei bod hi’n Wythnos weddi am undod Cristnogol. Mae’r wythnos yn cychwyn ar 18 Ionawr, sef Gŵyl Cyffes Pedr, ac yn para tan 25 Ionawr, Gŵyl Tröedigaeth S Paul. Eleni dethir canmlwyddiant yr arfer o gadw’r wythnos. Yn Aberystwyth bydd aelodau’r rhan fwyaf o eglwysi Cristnogol y dref a’r cylch, yn Gymraeg a Saesneg, yn dod ynghyd mewn gwasanaeth unedig. Fel arfer bydd pregethwr arbennig yn dod i’r gwasanaeth. Eleni y pregethwr oedd y Parchg Roy Cooper, llywydd yr Eglwys Fethodistaidd yn Iwerddon. Roedd e’n dod â phrofiad Iwerddon gydag e lle roedd/mae Cristnogion wedi’u rhannu. Rhannodd ef gyda ni brofiad o gydweithio ar draws y rhaniadau hyn. Dywedodd un peth diddorol iawn yn ei bregeth am dwf yr Eglwys Fethodistaidd (neu Wesleyaidd) yn Iwerddon. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r eglwys wedi gweld twf syfrdanol, a’r rheswm am hynny yw dyfodiad cymaint o fewnfudwyr i Iwerddon, yn arbennig felly o gyfandir Affrica.

Caravaggio The conversion on the way to Damascus

Troedigaeth S Paul ar y ffordd i Ddamascus gan Caravaggio (1601)
Mae’r gwreiddiol yn Eglwys Santa Maria del Popolo, Rhufain

Rhagor o luniau o’r gwasanaeth unedig.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>