Heddiw fe fues i yn ngwasanaeth coffa, neu offeren requiem, y Tad John FitzGerald. Fe wnes i ysgrifennu pwt am John pan bu farw ‘nôl ddiwedd mis Tachwedd 2007. Cynhaliwyd ei angladd yr ochr draw i Lundain, yn Aylesford, swydd Caint. Dyna gartref Urdd y Carmeliaid ym Mhrydain ac yn draddodiadol dyna lle y caiff holl aelodau’r urdd eu claddu. Ond yr oedd John hefyd yn bendant perthyn i Gymru ar ôl yr holl flynyddoedd y treuliodd yn gweinidogaethu yma. Yr oedd hefyd yn perthyn i’r Gymru Gymraeg yn benodol fel rhan allweddol o genhadaeth yr Eglwys Babyddol i siaradwyr Cymraeg yn ail hanner yr C20.
Roedd Eglwys Gatholig Rufeinig Mair Arglwyddes yr Angylion a Gwenfrewi yn llawn ar gyfer yr offeren. Fel y disgwyl roedd llawer iawn o babyddion Cymraeg amlycaf Cymru yno yn y gynulleidfa, ond roedd llawer yno hefyd nad oeddent yn babyddion nac hyd yn oed yn gredinwyr. Roedd gan John galon fawr iawn, ac efallai dyna pam ei fod wedi llwyddo i gyffwrdd â bywydau cymaint ohonom gyda gras a chariad Duw. Mae’n siŵr bod rhai oedd wedi ei adnabod wedi troi at yr Eglwys Babyddol oherwydd ei ddylanwad, ond roedd llawer ohonom heb droi ond yr un mor uchel ein parch ohono.
Gwasanaeth cyfangwbl Gymraeg oedd yr offeren heddiw. Ac wrth gwrs John oedd un o’r rhai oedd wedi bod yn allweddol yn yn y gwaith o lunio a chyfieithu litwrgi Cymraeg yr Eglwys Babyddol. Felly yr oedd y geiriau yr oeddem ni yn eu defnyddio yn gwneud John yn ddwbl-bresennol yn ein plith – yn y lle cyntaf yr oedd yno fel un o gwmpeini nef, ond roedd hefyd yno trwy eiriau y gwasanaeth. Roedd y gwasanaeth yn un cyfoethog o ran ei gynnwys, ac roedd yn rhaid i hyd yn oed yr Eglwys Babyddol gydnabod Anghydffurfiaeth Brotestannaidd Cymru yn yr emynau a ganwyd – un gan weinidog yr Annibynwyr ac un gan weinidog y Bedyddwyr! Pregethwyd gan yr Esgob Daniel Mullins. Y tro diwethaf imi ei weld ef oedd ar achlysur lansio cyfrol John Grawn gwirionedd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ni lwyddais i gael gair gydag ef heddiw ond roedd hi’n amlwg oddi wrth rai o’i sylwadau yn y bregeth bod colli John wedi bod yn dipyn o ergyd iddo. Cododd ei destun o 2 Timotheus 4.6-8 a Ioan 6.35-40. Dyna’r darlleniadau yr oedd John wedi’u dewis ar gyfer offeren angladdol ei frawd Gregory, a oedd hefyd yn offeiriad.
Oherwydd y mae fy mywyd i eisoes yn cael ei dywallt mewn aberth, ac y mae amser fy ymadawiad yn dod. Yr wyf wedi ymdrechu’r ymdrech lew, yr wyf wedi rhedeg yr yrfa i’r pen, yr wyf wedi cadw’r ffydd. Bellach y mae’r dorch, a roddi am gyfiawnder, ar gadw i mi; a bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno imi ar y Dydd hwnnw, ac nid i mi yn unig ond i bawb fydd wedi rhoi eu serch ar ei ymddangosiad ef. 2 Timotheus 4.6-8
Fel y dywedais yr oedd yr adeilad yn llawn, ac roedd hi’n fraint medru bod yn rhan o’r diwrnod. Roedd hi’n dda hefyd i fod yn un o’r Cristnogion hynny nad oedden nhw’n Babyddion oedd yn diolch i Dduw am y bendithion a brofwyd trwy John. Doedd neb tebyg iddo; roedd yn frwdfrydig am bob dim roedd e’n ei wneud. Yn fwy na hynny roedd e am ac yn rhannu ei frwdfrydedd gyda phawb. Trueni nad oedd modd storio hwnnw fel ffordd i wasgar peth ar y sinigiaeth sy’n dod mor hawdd inni, hyd yn oed Gristnogion, y dyddiau hyn.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael