Newid yr anthem genedlaethol
Bu’r ymgais i ysgrifennu geiriau ar gyfer anthem genedlaethol y wladwriaeth Sbaenaidd yn fethiant. Wedi misoedd o chwilio a dewis, doedd y geiriau ddim yn plesio; mae’n weddol anodd i anthem genedlaethol beidio â swnio’n debyg i’r fath o beth fyddai wedi plesio Franco. Prin yw’r anthemau cenedlaethol nad ydyn nhw’n dyrchafu’r genedl mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Roedd hi hefyd yn dipyn o gamgymeriad i ofyn i bwyllgor wneud y gwaith. Gall un gân neu hyd yn oedd un pennill ddim plesio pawb, ac yn bendant ni all blesio pwyllgor.
Nid trwy bwyllgor na phleidlais mae y dewiswyd ein hanthem genedlaethol ni. Ni wnaeth yr un pwyllgor benderfynu ar ei statws; fe ddigwyddodd. Ond petai’r cyfle yn codi mae ‘na rai pethau yr hoffwn i eu newid am Hen wlad fy nhadau. Yn y lle cyntaf mae’r teitl braidd yn anaddas o safbwynt ein hoes gyfartal ni. Ac i genedl lle mae nifer go dda yn cydymdeimlo gyda’r safbwynt heddychol mae’r arwyr a ganmolir am golli eu gwaed tros ryddid yn awgrymu i mi eu bod hwy wedi gwneud hynny tra’n ceisio helpu eu gwrthwynebwyr i golli eu gwaed hwythau. Dwi’n sylweddoli taw fy nehongliad i yw hyn, ond dwi’n credu ei fod yn dal dŵr.
Yn ddiweddar bu rhai gwleidyddion yn Lloegr yn trafod pa mor gynhwysol ac affirmiadol yw’r God save the queen. Roedd un neu ddau yn fodlon beirniadu peth arni, yn arbennig felly y trydydd pennill nad oes neb yn ei ganu bellach. Mae hwnnw’n adlewyrchu oes arall:
Lord, grant that Marshal Wade,
May by thy mighty aid,
Victory bring.
May he sedition hush and like a torrent rush,
Rebellious Scots to crush,
God save the King.
A ddylid newid yr anthem genedlaethol oherwydd pennill nad oes neb bron yn gwybod amdano a llai fyth wedi’i ganu. Wrth gwrs mae ‘na benillion eraill nad nad ydynt yn cael eu canu yn arferol yn Hen wlad fy nhadau hefyd. Beth mae dyn i’w wneud o’r pennill hwn:
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Os ydym wedi ein gormesu, does dim angen poeni dim oherwydd yr ydym yn dal i fedru canu’r delyn! Dim rhyfedd ein bod wedi bod yn gollwyr trwy ein hanes gydag agwedd fel ‘na.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Un o rwystra ag all godi gyda Sbaen yw fod llawer o ‘daleithiau’. Gwlad y Basg, Aragon, Catalonia, Valencia, Galicia etc. Pob un efo agwedd a hanes ei hun.
Byddai anthem newydd Sbaen yn cynnwys rhywbeth am ei hanes Moor-aidd, y cyd fyw a gweithio rhwng y Cristionaid a’r Mwslemiaid fel yn achosion El Cid, neu rhywbeth am ei hanes ymerodol?
Y trydydd ydy fy hoff bennill Hen Wlad. Mae o’n crynhoi rhyfeddod yr iaith.