Y Teulu
Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog, ac nid wrth y rhaglen gyntaf y mae beirniadu cyfres deledu, yn arbennig felly cyfres ddrama. Ond, dyna dwi am wneud! Fe wnes i weld y rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd ar S4C nos Sul, Y teulu (Boomerang). Mae’r ddrama hon wedi’i gosod yn Aberaeron, Ceredigion, gyda bywyd bob dydd meddygfa yn gefndir iddi. Fel y dywedais dwi ddim yn gwybod a oes dim sy’n fwy anodd i’w wneud na’r rhaglen gyntaf mewn cyfres. Mae disgwyliadau’r gwylwyr yn arbennig o uchel ac mae’n rhaid iddynt ddeall rhywfaint o pwy yw pwy a beth yw eu perthynas gyda’i gilydd. Ar ben hyn i gyd mae’n rhaid gosod naws yr holl gyfres ac sicrhau fod diddordeb yn cael ei ennyn yn y cymeriadau a/neu’r sefyllfa(oedd) fel bod yr ail rhaglen yn cael eu gwylio. Yn y byd teledu mae’r nifer sy’n edrych ar ail raglen cyfres o’i gymharu gyda’r rhaglen gyntaf yn bwysig dros ben – dyma beth sy’n golygu llwyddiant neu fethiant.
Wrth gwrs mae gan bawb hanes am raglen gyntaf aflwyddiannus mewn cyfres gofiadwy, neu hyd yn oedd cyfres gyntaf gyfan sy’n dwyn ffrwyth yn yr ail. I mi mae Blackadder yn un o’r rheiny. Roedd y gyfres gyntaf yn wan iawn ac yn brin ar bopeth a welwyd yn y cyfresi dilynol. Mae’n rhaid bod rhywun weld gweld y potensial a buddsoddi ynddo. Oherwydd hynny fe gafwyd tair cyfres arbennig o gomedi clasurol.
Ar ôl dweud hynny rhaid imi gyfaddef imi gredu fod y rhaglen gyntaf yn y gyfres teulu wedi llwyddo i raddau helaeth iawn. Bydda i’n gwneud ymdrech i weld yr ail raglen. I ddweud y gwir mae’n bosib y gwna i ail-edrych ar y rhaglen gyntaf gan ei bod yn cael ei darlledu eto (gydag is-deitlau agored) nos Iau (2008-01-17). Felly beth oedd y rheswm dros lwyddiant? Yn y lle cyntaf dwi’n credu fod actorion profiadol ac adnabyddus yn ennyn hyder y gynulleidfa yn y ddrama. Nawr, dwi’n gwybod y gall y mwyaf talentog lithro weithiau a chymryd rhan mewn twrci o gyfres. Ond does ond angen i gyfres fod yn iawn ac mae actorion talentog yn medru ei throi yn llwyddiant. Gyda sgript cryf, fel y buasai dyn yn ei ddisgwyl gan rywun fel Meic Povey, cyfarwyddo Siôn Humphreys, ac actorion cryfion hefyd mae hi’n anochel bron bod rhaglen dda yn cael ei chreu.
Roedd ‘na sefyllfa deuluol eithaf cymhleth i’w chyflwyno a nifer o gymeriadau oedd o fewn a thu allan i’r teulu i ddod i’w hadnabod. Dwi’n credu i hynny ddigwydd i raddau helaeth. Efallai bod un neu ddau o fanylion ar ôl i’w deall yn iawn, ond dwi’n eithaf sicr fy mod yn gwybod pwy sy’n perthyn i bwy a beth yw eu hagweddau tuag at ei gilydd. Heuwyd rhai hadau dirgelwch hefyd ac fe ollyngwyd ambell sgwarnog yn rhydd i redeg drwy’r lle. Ond o’r olygfa gyntaf o’r teulu yn dod o Lundain yn y car yn ôl i Gymru gan wrando ar un o dapiau Martyn Geraint roeddwn i’n rhan o’r ddrama fy hun.
O blith yr actorion rhaid imi ddweud ei bod hi’n dda i weld Geraint Morgan yn ôl ar y sgrin a hynny mewn rhan mae e wedi’i greu ar ei chyfer hi mae’n ymddangos. Wedyn o’i gwmpas mae Llwybr Llaethog o dalent, yn eu plith William Thomas, Mair Rowlands, Gaynor Morgan Rees, Beth Robert. Roedd perfformiad Heledd Baskerville fel yr arddegwraig o uffern yn un i’w fwynhau hefyd.
Mae hefyd yn bosib gwylio rhaglenni’r gyfres ar-lein am gyfnod penodol ar wefan Gwylio yma S4C.



(6 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.67 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Diolch i ti am y linc Dogfael . ‘Roeddwn wedi clywed fod ‘na ddrama newydd ar gael ar S4C, ac mae dy ddisgrifiad positif o raglen ‘Y Teulu’ wedi codi awydd arnaf i’w wylio ar y we.
Dwi’n gobeithio na wna i dy siomi di! Mae pawb â’i chwaeth ei hun, ac rwyt ti’n gwybod bellach sut chwaeth sy gen i o ddarllen y blog. Fe wnes i wirioneddol fwynhau’r rhaglen gyntaf a doedd dim pwynt imi geisio cuddio hynny. Fel y dywedais i roedd dilyn pob tro yn y stori a deall perthynas pawb â’i gilydd yn ychydig o her, ond dwi’n credu y bydd yn talu ar ei ganfed i stico gyda’r gyfres. Cofia ddweud beth wyt ti’n ei feddwl amdani.
Dogfael – nid ‘mod am fod yn bedant, ond nid y ferch yn ei harddegau sy’n cael ei chwarae gan Heledd Baskerville. Yn hytrach mae Heledd yn chwarae rhan merch y doctor bu farw, sef gwraig yr actor Geraint Morgan.
Sori ‘mod i ddim yn gwybod enwau’r cymeriadau … sdim ach teulu Y Teulu ar wefan S4C yn anffodus!
Joies i’r rhaglen gynta hefyd. Aros i weld pryd gawn ni’r ’stori howy’ a’r ’stori llosgach ddamweiniol’ fewn i’r gyfres!
Huw, Diolch iti am hyn. Dwi ddim yn gwybod beth oedd yn bod arna i yn gwneud camgymeriad o’r fath. Ond cyn i neb feddwl i’r gwrthwyneb roedd perfformiad Heledd Baskerville yn un da iawn fel gwraig Geraint Morgan. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at y rhifyn nesa nos Sul.
Ac un peth arall. Diolch am f’atgoffa Huw. Er bod ‘na wybodaeth am Y teulu ar wefan S4C does dim llawer o wybodaeth o gwbl am y bobol oedd yn gyfrifol am y gyfres – yr awduron, yr actorion, yn cyfarwyddwr, y technegwyr &c. Mae hyn yn drueni mawr oherwydd fy mod i’n hoffi gwybod pwy sy’n gyfrifol am beth er mwyn canmol neu feirniadu yn ôl yr angen.
Cwestiwn hollol wahanol! Oes ‘na unrhyw un yn gwybod pwy sydd yn canu’r gan sydd ar y “trailer” ar gyfer y gyfres “Teulu”? Dwi wrth fy modd hefo’r gan!
Diolch am unrhyw ymateb!