Mechelen (3)

Hen balas yr archesgob, MechelenCychwynnais ar fy nhaith o gwmpas Mechelen trwy gwrdd â chyfeillion wrth yr orsaf. Roeddwn i wedi cwrdd â’r dau o’r tri o’r blaen – fy nghyfeilles Liesbeth a Kevin – ond dyma gyfarfod â Joris am y tro cyntaf. Mae e’n byw yn Leuven ac yn gweithio i gwmni cyfrifiadurol. Er ei bod hi’n oer roedd y diwrnod yn un gwych ar gyfer crwydro o gwmpas y ddinas. Wrth adael yr orsaf fe wnaethon gerdded ar hyd Hendrik Consciencestraat hyd nes cyrraedd sgwâr Kardinaal Mercierplein lle mae hen balas archesgobion Mechelen yn sefyll. Enwyd y sgwâr er anrhydedd i Désiré-Félicien-François-Joseph Cardinal Mercier (1851-1926) sy’n cael ei gofio’n bennaf fel cardinal yr eglwys Babyddol yng Ngwlad Belg yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Er iddo wrthsefyll yn gadarn yn erbyn ymosodiadau’r Almaenwyr a dod yn arwr cenedlaethol dwi’n ofni i ddweud nad oes llawer o barch i’w enw ymhlith cenedlaetholwyr Fflandrys oherwydd ei agwedd drahaus tuag at Iseldireg. Cafodd ei eni yn Walwnia ac felly Ffrangeg oedd ei famiaith, ond er iddo dreulio y rhan fwyaf o’i fywyd yn Fflandrys roedd ei agwedd tuag at Iseldireg ddim yn bositif iawn. I ddweud y gwir doedd e ddim mewn gwirionedd yn credu fod Iseldireg yn iaith addas ar gyfer diwylliant ac addysg uwch a doedd ganddo ddim llawer o gydymdeimlad gyda’r defnydd o’r iaith ar gyfer addysg yn gyffredinol. Fel hyn y dywedodd yr hanesydd Robrecht Boudens amdano yn ei lyfr Two cardinals (1995):

He considered it normal that the clergy should converse with him, with the upper classes, with the educated and even with each other in French. French was a universal and international language while Flemish [h.y. Iseldireg] was a dialect, without widespread circulation, colourful and rich in imagery perhaps, but also course [sic.] and vulgar and certainly not a suitable vehicle for true culture and science and consequently not suited for university level education. Mercier’s opinion of the Dutch language can be explained in no small measure by his deeply imbued conviction of the superiority of French.

Onid yw’r agwedd meddwl yn swnio’n gyfarwydd? Roedd hyn mewn archesgobaeth lle’r oedd llawer o’r clerigwyr yn uniaith Iseldireg ac yn gweinidogaethu mewn plwyfi lle’r oedd trwch y boblogaeth hefyd yr un mor uniaith. Wrth gwrs y clerigwyr yma yn y plwyfi oedd rhai o arweinwyr y mudiad Fflandrysaidd a oedd yn ceisio ennill statws a bri i Iseldireg a sicrhau sustem addysg a fyddai’n rhoi lle teilwng i’r iaith yn ei holl weithredoedd. Felly doedd ei syniadau ddim yn boblogaidd gyda phawb o’i bobol ei hun. Wrth gwrs roedd e’n mynnu taw ei farn ef oedd yn iawn ac felly cadw’n dawel fyddai nifer o’r rhai oedd yn anghydweld ag ef. Bydd enw Cardinal Mercier yn codi eto yn ystod ein taith o gwmpas Mechelen. Roedd ei ddylanwad yn fawr ar y ddinas. Fe’i hapwyntiwyd yn archesgob yn 1906 a bu yn y swydd am ugain mlynedd hyd ei farw yn 1926.

Cofeb Cardinal Mercier, Brwsel

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>