Anghofio am £103,000?

Mae ceisio deall sut all unrhyw un anghofio am fwy na £100,000 yn eithaf anodd, ond dyna a wnaeth Peter Hain os ydym i’w gredu. Nid ceisio cuddio’r peth, jyst anghofio amdano. Yr hyn sy’n fy synnu i yw fod Hain wedi derbyn cymaint o nawdd i’w ymgyrch am ddirprwy arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig ac eto ond wedi gorffen yn bumed. Dwi’n gwybod y gallech chi weld y peth fel rhywbeth da yn profi nad yw arian yn medru ennill yn y pendraw. Ond mae’n ofid i mi fod cymaint o arian i’w gael ar gyfer ymgyrch fewnol mewn unrhyw blaid. Yn ôl y stori yn y Guardian roedd e wedi gwario dros £200,000 ar ei ymgyrch. Dwi’n credu ei bod hi’n ddyletswydd ar Hain esbonio’n llawn beth ddigwyddodd a hynny ar frys. Mae’r cyfryngau yn disgrifio’r anrhefn oedd yn swyddfa Hain yn ystod ac wedi’r ymgyrch am y dirprwy arweinyddiaeth.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)

Gwneud sylw

Ni chaiff dy gyfeiriad e-bost fyth mo'i gyhoeddi na'i rannu. Nodir y meysydd hanfodol gyda *