Dydd Sadwrn (2007-12-29). Heddiw yr oeddwn i wedi trefnu mynd am dro i ddinas Mechelen yng nghwmni Liesbeth a rhai o’i ffrindiau. Mae Mechlen yn gorwedd rhwng Brwsel ac Antwerpen ac yn ogystal â bod yn grud Cristnogaeth yr ardal ac yn gartref i archesgobaeth Babyddol Gwlad Belg, mae’r ddinas hefyd yn ganolfan i wneud [...]
