Merched y Wawr, Llanfarian
Dydd Mercher (2008-01-09). Heno fe fues i’n annerch cyfarfod o Ferched y Wawr yn Llanfarian, ger Aberystwyth. Roeddwn i wedi cael gwahoddiad ers misoedd i ddod yno er mwyn siarad am ddathlu’r flwyddyn newydd. Fe wnes i siarad wrth gwrs am y traddodiad yng Nghwm Gwaun o gadw’r Hen Galan, 12 Ionawr. Mae’r arfer hwn yn dyddio yn ôl i’r hyn a ddigwyddodd yn 1752 pan fabwysiadwyd calendr Grigor yn hytrach nag un Iŵl. Golygodd hynny golli diwrnodau o’r calendr swyddogol, ond mynnodd y werin oedd yn grediniol fod rhywun wedi dwyn y dyddiau oddi arnynt i barhau i ddathlu’r gwyliau ar yr hen adeg draddodiadol – ar 12 Ionawr yn achos Dydd Calan.
Cefais groeso twymgalon gan yr aelodau yn Llanfarian ac fe wnaethon nhw wrando yn astud ar yr hyn oedd gennyf i’w ddweud. Wedi sôn am y rheswm dros gadw’r Hen Galan fe wnes i sôn am wahanol arferion yn gysylltiedig â’r adeg hon o’r flwyddyn. Roeddwn i fy hunan yn cofio’r arfer o facsu cwrw. Nid rhywbeth allan o git oedd hwn, ond byddai fy nhad a fy mam yn defnyddio hopys, gwenith, burum i wneud y cwrw. Roedd y traddodiad yn beth byw iawn yn y 1960au a’r 1970au cynnar, ond wrth iddi ddod yn bosib ichi brynu diod gadarn ym mhob siop bron fe aeth yr arfer yn anghyffredin iawn. Yn garedig iawn cefais lifft mas i Lanfarian gan Mari a Gwladys. Dwi wrth fy modd yn siarad gydag aelodau o Ferched y Wawr gan ei fod yn f’atgoffa am fy mam oedd yn aelod ffyddlon o’r mudiad ac yn meddwl y byd o’r cyfleoedd roedd hi wedi’i gael trwy ei chysylltiad gyda’r mudiad.
Rhagor o luniau o Dogfael yng nghyfarfod Merched y Wawr, Llanfarian.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael