Mynd gydag Ivan i’r Winter Pret, Brwsel

Winter Pret, BrwselDoedd fy niwrnod i ddim ar ben gyda fy ymweliad â Drogenbos gan fy mod wedi trefnu i gyfarfod gyda chyfaill o Fflandrys yng nghanol Brwsel gyda’r nos. Ein bwriad oedd mynd i’r ffair oedd yn cael ei chynnal yno, y Winter Pret. Roeddwn i wedi cwrdd ag Ivan am y tro cyntaf tua’r un amser llynedd pan roeddwn i’n treulio’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ym Mrwsel. Bryd hynny roeddwn i wedi mynd i Leuven i gwrdd ag yntau. Mae e’n saer sy’n gweithio mewn siop pethau DIY yn Leuven. Ond yn bwysicach na hynny mae ganddo ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth iaith yng Ngwlad Belg. Ond heno y bwriad oedd edrych o gwmpas i weld beth oedd yn y ffair.

Winter Pret, Brwsel

Yr oedd Ivan am weld un peth yn arbennig sef ceffylau bach Le Manège d’Andrea. Ond mae ceffylau bach yn ffordd llawer rhy wan o lawer o’u disgrifio gan taw bwystfilod a pheiriannau rhyfedd yw’r ceffylau bach hyn mewn gwirionedd. Roedd Ivan yn dwlu ar grefft y rhai oedd wedi eu llunio, a rhaid imi gyfaddef i’r ddau ohonon ni eistedd yno yn rhyfeddu at yr holl beth yn mynd o gwmpas.

Mae’r ffair yn estyn o sgwâr i sgwâr yng nghanol Brwsel, ac yn sgwâr Sint-Katelijneplein roedd nifer o stondinau yn cynrychioli ynys Reunion. Draw wedyn ar y Brandhoutkaai roedd pob math o stondinau bwyd o Ffrainc a’r Almaen yn ogystal â stondinau yn gwerthu bwyd i’w fwyta yn y fan a’r lle. Cafodd Ivan bwdin gwaed traddodiadol i’w fwyta, ond doedd dim rhyw lawer o chwant arna i. Roedd y ffair ei hun yn gymysgedd o’r cyfarwydd a’r dieithr. Roedd llawer o bethau yno’n debyg i’r hyn a fyddai mewn ffair yng Nghymru – candi-fflos ac afalau taffi – ond wedyn roedd y pwdinau gwaed a rhai pethau eraill yno nad oeddwn i erioed wedi’u gweld o’r blaen. Yno hefyd yr oedd faes sglefrio ac olwyn fawr. Roedd y lle dan ei sang ac ar brydiau roedd Ivan a mi yn ei chael hi’n anodd cerdded o gwmpas a gweld popeth oedd ar gael yno.

Ivan yn mwynhau pwdin gwaed yn y Winter Pret, Brwsel

Roedd gan Ivan reol wrth fynd o stondin i stondin, sef dim ond siarad Iseldireg. A’r peth rhyfedd oedd ei fod yn cael ei siomi ar yr ochr orau bron yn ddieithriad. Wrth inni gerdded o gwmpas hefyd roedd llawer iawn o Iseldireg i’w glywed – codwyd ychydig ar galon Ivan!

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>