Coffi di-fwg

Café MONK, Sint Katelijnestraat, BrwselWedi crwydro trwy ffair y Winter Pret roedd y ddau ohonom yn teimlo braidd yn oer ac yn chwilio am rywle i gynhesu. Felly dyma alw mewn i gaffi i gael coffi. Dewisodd Ivan un o gaffis Fflandrysaidd yr ardal, sef Café Monk yn Sint-Katelijnestraat. Ar yr olwg gyntaf yr oedd hwnnw yn edrych yr un mor orlawn â’r ffair, ond yn y cefn roedd ‘na ardal ddi-fwg oedd fel y bedd ac yno bu’r ddau ohonom eistedd ac yn sgwrsio am awr a hanner a rhagor. Mae Gwlad Belg wedi mynd am sustem gymhleth o reoli ysmygu mewn tafarndai a bariau. Ers Ionawr 2007 mae ysmygu wedi’i wahardd mewn bwytai a bariau, heblaw y llefydd hynny lle darperir “lluniaeth ysgafn”, sef prydau bwyd oer, pizzas, a phrydau poeth sy’n cael eu bwyta gyda bara yn hytrach na slgodion ac sy hefyd yn gwneud llai na 30% o’u hincwm o werthu bwyd. Mae’r ddeddf braidd yn rhyfedd gan ei bod yn golygu y gallwch chi weini platiaid enfawr o spaghetti bolognaise yn eich bwyty a bydd hwnnw’n cael ei ystyried yn “lluniaeth ysgafn” ond byddai platiaid tebyg o sglodion yn cael ei ystyried yn bryd sylweddol.

Ivan yn Café MONK, Sint Katelijnestraat, Brwsel

Dogfael yn Café MONK, Sint Katelijnestraat, Brwsel

Mae Ivan yn sgwrsiwr penigamp, mae’n llwyddo i gadw’r drafodaeth i fynd a hynny ar bob pwnc dan yr haul a hynny yn Saesneg – trydedd neu bedwerydd iaith iddo mae’n siŵr. Er bod ein sgwrs wedi bod am bob peth o dan haul, o bryd i’w gilydd yr oedd yn rhaid dychwelyd at beth oedd yn digwydd yn wleidyddol ac yn ieithyddol yng Ngwlad Belg a Fflandrys. Erbyn inni sylweddoli roedd hi wedi troi 11.00pm ac yn amser imi fynd am Ukkel. Fe wnes i ddal bws rhif 38 o De Broukere yn mynd i gyfeiriad Helden tua 11.30pm ac roeddwn i yn y fflat cyn hanner nos.

Golygfa o fws 38 yn mynd o De Brouckere i Helden, Brwsel

Rhagor o luniau o’r diwrnod.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>