Wedi crwydro trwy ffair y Winter Pret roedd y ddau ohonom yn teimlo braidd yn oer ac yn chwilio am rywle i gynhesu. Felly dyma alw mewn i gaffi i gael coffi. Dewisodd Ivan un o gaffis Fflandrysaidd yr ardal, sef Café Monk yn Sint-Katelijnestraat. Ar yr olwg gyntaf yr oedd hwnnw yn edrych yr [...]
