Wedi bod yn Linkebeek roedd yn rhaid bwrw yn ôl i Frwsel er mwyn dal y tram allan i Drogenbos, fy mhumed cymuned gydag adnoddau ieithyddol i siaradwyr Ffrangeg ar gyrion Brwsel. Roeddwn i’n mynd i fynd ar dram 82 o orsaf Brwsel Zuid hyd at neuadd cyngor Drogenbos. Mae’r tram ei hun yn mynd ymlaen i un safle arall, sef Castell Drogenbos. Ond cyn imi fynd i orsaf Brwsel Zuid fe es i yn ôl i’r fflat yn Ukkel a gwneud cinio i fi fy hun. Roedd yn rhaid imi fynd yn ôl i gael fy ffôn symudol. Am ryw reswm neu’i gilydd roeddwn i wedi dod mas hebddo yn y bore, ac roeddwn i am fod yn siŵr fod gen i’r ffôn oherwydd y noson honno roeddwn i wedi trefnu i gyfarfod gydag Ivan yng nghanol y ddinas a mynd o gwmpas ffair y Winter Pret gyda’n gilydd.
Roedd y daith o Zuidstation i Drogenbos ar dram 82 yn cymryd rhyw hanner awr ac fe aeth â mi trwy dde-orllewin y ddinas a chymuned Vorst yn benodol. Fe aethon ni heibio i eglwys Sint-Denijskerk ac roedd honno’n edrych yn adeilad diddorol iawn. Dwi’n gwybod bellach bod prif ran yr eglwys wedi’i godi yn y 13g. Ond roeddwn i ar y tram ac felly doedd dim llawer o amser i weld dim ac felly bydd yn rhaid dod yn ôl yma rhyw ben.
Ymlaen â’r tram ac roeddem ni yn Drogenbos cyn imi sylwi. Y cyfan yw Drogenbos mewn gwirionedd yw arwydd oherwydd i bob pwrpas does dim yn ei rannu oddi wrth Brwsel o gwbwl. Dwi’n ofni na roddais i’r amser y dylwn i fod wedi’i roi i Drogenbos mewn gwirionedd. Fe wnaeth y tram gyrraedd ac fe fues i’n cerdded o gwmpas am ryw hanner awr i ddeugain munud cyn dal yr un tram yn ôl i Zuidstation.
I’r rhai hynny sydd â diddordeb yn yr ystadegau mae ‘na 15 o aelodau ar gyngor y gymuned, o’r rheiny mae gan gan y ddau grŵp Ffrangeg 14 sedd (Drogenbos Plus ag 8, a’r UF gyda 6) gan adael ond un aelod i’r rhestr Iseldireg, Accent. Y maer yw Alexis Calmeyn.
Fel mae’n digwydd Drogenbos oedd y gymuned olaf ag adnoddau ieithyddol imi ymweld â hi yn ystod y gwyliau. Golyga hyn fy mod wedi bod mewn pump o’r chwe chymuned yr oeddwn wedi bwriadu ymweld â nhw. Ni lwyddais i fynd i Wemmel wedi’r cyfan cyn imi droi am adref. Felly bydd yn rhaid imi ddychwelyd eto i fynd yno.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael