Linkebeek (2)

Dyw hi ddim yn syndod fod pobol am fyw yn Linkebeek. Mae’n beth od i’w ddweud ond mae canol y dref bron â bod yn atgoffa dyn o bentref yn Lloegr oherwydd yr hyn sydd yno i bob pwrpas yw “village green”. Ar ganol hwnnw mae cofeb ryfel. O gwmpas y mae tai, siopau, gorsaf yr heddlu, neuadd y cyngor a’r safleoedd bysus. Rhyw 5,000 sy’n byw yma ac yn ôl yr arolygon iaith a wnaed rhyw ddwy neu dai blynedd yn ôl mae yn agos i 80% ohonynt yn siarad Ffrangeg. Ar y cyngor mae tri grŵp gwleidyddol – dau grŵp Ffrangeg gyda 13 o aelodau, a grŵp Iseldireg gyda 2 aelod. Y maer yw Damien Thiéry ac mae e’n un o’r tri maer nad oedd gweinidog llywodraeth leol Fflandrys yn fodlon eu cadarnhau yn eu swyddi oherwydd nad oeddent yn cadw at gyfraith ieithyddol y rhanbarth.

Linkebeek

Rhyw fis neu ddau yn ôl roedd y Taal Aktie Komitee wedi bod yn protestio yma yn erbyn y defnydd o arwyddion dwyieithog ac roedd ôl y brotest i’w gweld o hyd ar rai o arwyddion o gwmpas neuadd y cyngor, neu’r gemeentehuis.

Arwydd ar y Gemeentehuis, Linkebeek

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>