Dydd Gwener (2007-12-28). I rywun sy’n digwydd taro ar draws y blog yn ‘oer’ bydd y diwrnod heddiw yn swnio’n arbennig o debyg i ddoe. Y rheswm dros hynny wrth gwrs yw fy mod yn ceisio cyrraedd yr un fath o nod heddiw â ddoe, sef ymweld â rhai o’r cymunedau ar gyrion dinas Brwsel sydd yn Fflandrys ond lle mae Ffrangeg yn cymryd lle Iseldireg fel iaith feunyddiol y cymunedhau hynny. Ddoe roeddwn i wedi bod i’r dwyrain, i’r hyn a elwir yn Oostrand mewn Iseldireg. Heddiw roeddwn i am anelu tua’r de. Fan ‘ny mae tair cymuned lle mae’r Ffrangeg yn ennill tir yn erbyn Iseldireg am nifer o wahanol resymau. Roeddwn i wedi bod yn un ohonynt, Sint-Genesius-Rode, ddydd Sadwrn, bron i wythnos yn gynt. Nawr roeddwn am ymweld â’r ddwy arall – Linkebeek a Drogenbos. Mae chwech o gymunedau o gwmpas Brwsel yn y sefyllfa hon, ac ar ôl heddiw byddaf i wedi bod mewn pump ohonynt.
Y gamp fawr yw trefnu eich taith i’r llefydd hyn ar drafnidiaeth gyhoeddus. Er eu bod ar gyrion Brwsel maen nhw’n gorwedd yn nhiriogaeth Fflandrys, ac felly mae’n anodd weithiau mynd iddyn nhw yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus y brif ddinas yn unig. Ond fel mae’n digwydd roedd hi’n gymharol ddidrafferth yn achos Linkebeek, gan fod bws yn mynd o Helden i’r dref ac mae Helden yn gymharol agos at lle mae’r fflat yn Ukkel. Felly bws 38 i lawr i fan ‘ny a disgwyl am fws 43 oedd yn mynd oddi yno trwy Linkebeek ac i Diesdelle, lle mae cwmni trenau Gwlad Belg newydd agor gorsaf newydd yn y brif ddinas.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael