Tra bo’r ddadl fawr ieithyddol yn Fflandrys/Brwsel ynglŷn â’r Ffrangeg a’r Iseldireg, mae ‘na iaith arall yn prysur ennill tir y tu ôl i’w cefnau. Does dim angen imi ddweud taw Saesneg yw’r iaith honno. Ar sgwâr y pentref o flaen y gemeentehuis yn Linkebeek roedd ‘na siop gyda’r enw ‘Once upon a time’! Mae’n [...]
Dyw hi ddim yn syndod fod pobol am fyw yn Linkebeek. Mae’n beth od i’w ddweud ond mae canol y dref bron â bod yn atgoffa dyn o bentref yn Lloegr oherwydd yr hyn sydd yno i bob pwrpas yw “village green”. Ar ganol hwnnw mae cofeb ryfel. O gwmpas y mae tai, siopau, gorsaf [...]
Dydd Gwener (2007-12-28). I rywun sy’n digwydd taro ar draws y blog yn ‘oer’ bydd y diwrnod heddiw yn swnio’n arbennig o debyg i ddoe. Y rheswm dros hynny wrth gwrs yw fy mod yn ceisio cyrraedd yr un fath o nod heddiw â ddoe, sef ymweld â rhai o’r cymunedau ar gyrion dinas Brwsel [...]