Mae rhyw 14,000 yn byw yn Wezembeek-Oppem ac, yn dilyn Kraainem, dyma’r mwyaf Ffrengig o gymunedau cyrion Brwsel sydd yn Fflandrys. Efallai y dylwn ail-eirio hynny fel un o’r llefydd lleiaf Iseldireg, oherwydd un o’r ffactorau sydd wedi cyfrannu at ddenu rhai nad ydynt yn siarad Iseldireg i’r ardal yw presenoldeb Internationale Deutsche Schule Brüssel (iDSB) ac nid dim ond siaradwyr Ffrangeg mae’r ysgol honno yn eu denu. Ysgol Almaeneg yw’r iDSB gyda rhyw 600 o fyfyrwyr a’r rhan fwyaf o ddigon yn yr adran uwchradd. Mae’r ysgol yn un sy’n cynnig addysg o safon yn bennaf ar gyfer y rhai sydd ag Almaeneg fel mamiaith, ond hefyd yn cynnig addysg i’r rhai sy’n dysgu’r iaith. Dwi’n siŵr nad oedd hi’n fwriad o gwbl i gael unrhyw effaith ar iaith yr ardal, ond yr oedd yn sgil effaith anorfod mewn cymuned lle mae’r sefyllfa ieithyddol mor sensitif.
Welais i ddim mo’r ysgol, ond fe wnes bwynt o fynd heibio i neuadd y cyngor. Y sefyllfa ieithyddol sy’n trefnu bywyd y gymuned hon ac mae’r ddau grŵp gwleidyddol ar y cyngor wedi’u rhannu yn ôl iaith, sef rhestr Ffrangeg Union ac Iseldireg Open. Yn yr etholiadau lleol yn Hydref 2006 enillodd Union 18 sedd ar y cyngor ac Open 5 sedd. Mae fel petai neuadd cyngor Wezembeek-Oppem yn adlewyrchu natur gyfwynebol gwleidyddiaeth y gymuned gan ei bod yn edrych yn hynod o debyg i gastell canol-oesol. Yn y parc gyferbyn â’r neuadd mae ‘na farchog ar gefn ei geffyl hefyd ac yn edrych fel petai’n barod i frwydr o ryw fath.
Mae’r maer, Francois van Hoobrouck d’Aspre, yn 72 oed ac yn un o’r meiri nad ydynt wedi’u cadarnhau yn eu swyddi gan weinidog llywodraeth leol Fflandrys am ei fod yn mynnu peidio â chadw at gyfraith ieithyddol y rhanbarth. Mae e’n dipyn o ymladdwr ac mae ei farn ar rannu etholaeth Brussel-Halle-Vilvoorde yn gwbl groes i farn y rhan fwyaf o bobol dwi’n eu hadnabod yn Fflandrys.
Wedi crwydro ychydig yn fwy fe ddaeth yn amser i fwrw ymlaen â’r daith i un arall o gymunedau’r cyrion, sef Kraainem.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael