Mae teithio ar y tram 39 neu 44 allan o orsaf Montogmery ym Mrwsel wastad yn gyffrous gan fod y tram yn mynd allan o’r ddinas i ardaloedd gwledig. Mae tram yn mynd i gyfeiriad Tervuren ac Amgueddfa Affrica sydd yno. I fynd i Tervuren mae’n rhaid mynd trwy goedwig Zoniënwoud. Nid yw’r daith ar dram 39 i gyfeiriad Ban Eik cweit mor gyffrous, ond roedd yn daith newydd i mi. Roedd hi’n cychwyn yn yr un man â thram ond yn gwahanu ar bwys yr amgueddfa dramiau ar Tervurenlaan, Museum voor het Stedelijk Vervoer te Brussel. Ond nid oedd cyfle i alw yno y tro hwn chwaith. Wedyn ymlaen trwy Stokkel, lle mae un o’r llinellau metro yn dod i ben, ac allan o’r ddinas. Roeddwn i’n bwriadu disgyn yng ngorsaf Beek a cherdded trwy Wezembeek-Oppem a chael y tram yn ôl i Stokkel ac yno ymuno gyda’r metro.
Rhaid imi gyfaddef imi gael tipyn o syndod o gael fy hun mewn lle mor wledig. Roedd gorsaf Beek yn gwneud i orsaf drenau Clunderwen slawer dydd ymddangos yn ddinesig. Ond lawr â fi a dechrau ar fy nhaith. Lle braf oedd hwn, ac mae’n amlwg pam fod cymaint yn cael eu denu i’r ardal i fyw. Dim swn traffig, dim prysurdeb, dim ond defaid ac asynnod mewn cae! Ddes i ddim o hyd i neuadd y cyngor yn Sint-Genesius-Rode, ond roedd fy map yn ddiogel yn fy llaw wrth grwydro yma ac yn bendant roeddwn yn mynd i ddod o hyd i’r gemeentehuis. Wedi’r anifeiliaid y lle cyntaf sylweddol imi ei weld oedd canolfan ddiwylliannol Iseldireg de Kam – un o gyfres o ganolfannau tebyg yn y faciliteitengemeenten er mwyn hybu’r defnydd o Iseldireg. Wrth fyn heibio hefyd dyma sylwi fod ‘na ychydig o ddifwyno wedi bod ar arwyddion dwyieithog. Ond yr hyn oedd yn tynnu sylw dyn yn bennaf oedd yr holl dai newydd – ac wrth gwrs roedd hyn yn fy atgoffa o’r hyn sydd wedi digwydd yn nifer fawr o bentrefi gwledig Cymru dros y blynyddoedd a’r effaith ar y Gymraeg yno.






![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael