Kraainem (3)

Gemeentehuis, Kraainem

Yr hyn oedd yn gwneud imi gyfeirio at awyrgylch tebyg i bentref yn Kraainem oedd sefyllfa neuadd y cyngor, y gemeentehuis, gyferbyn ag eglwys Sint-Pancratiuskerk, Kraainem. Ac wrth gwrs beth arall oedd yno ond tafarn The New Inn! Ac wrth gwrs yn y stryd fawr roedd ‘na fwyty Tsieineaidd, Bwyty Fu Lai. A dyma’r unig dro go iawn imi fwyta pryd allan ar fy mhen fy hun yn ystod y gwyliau. Dwi’n ofni imi fod yn geidwadol iawn a chadw at fwydlen y dydd – sef cawl gyda madarch a nwdls, ac yna reis wedi’i ffrïo gyda chyw iâr. Fe’m cyfarchwyd mewn Ffrangeg wrth imi gerdded i mewn trwy’r drws a dwi’n ofni i ddweud fy mod wedi derbyn hyn y gyda gwên ac wedi cadw ati i siarad Ffrangeg gyda’r weinyddes, er gwaethaf y ffaith ein bod ni ein dau yn sefyll ar dir a daear Fflandrys.

Bwyty Fu Lai, Kraainem

Mae llefydd yn mynd yn debyg iawn i’w gilydd, ac mae’r ffaith fod y bwyty Tsieineaidd yma yn Kraainem yn edrych yn gywir yr un fath â bwyty Tsieineaidd yn Aberystwyth yn brawf o hynny. Ond mae yn gwneud i ddyn deimlo ychydig yn gartrefol pan efallai yr oedd ‘na rhyw bwl o hiraeth o’i fewn!

Wedi’r pryd bwyd dyma gerdded i lawr i’r safle bysus ger parc gyda llyn braf yn ei ganol. Dyma safle Thumas lle byddwn yn ymadael â Kraainem a mynd yn ôl i Ukkel.

Rhagor o luniau o’r diwrnod yn Wezembeek-Oppem a Kraainem.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>