Roedd y daith o Roodebeek hyd at Kraainem yn mynd â mi trwy gymuned cymharol gyfoethog Sint-Lambrechts-Woluwe, er roedd ‘na dai digon tlodaidd yr olwg i’w gweld o’r bws. Aethon ni heibio hefyd i gampws Université catholique de Louvain ym Mrwsel, sy’n bennaf yn gartref i ysbyty’r brifysgol, sef UCL St Luc. Ond wrth i’r bws wacau’n raddol roeddwn i’n dal i fod arni yn gadael Brwsel go iawn ac yn mynd trwy gymuned Sint-Stevens-Woluwe er mwyn cyrraedd Kraainem. Cefais fy ngadael yn safle Sint-Antonius, ond doedd hynny yn ddim ond un man ar ganol stad o dai ac yn raddol bu’n rhaid imi ddod i ddeall ble’n union yr oeddwn i a sut yr oeddwn i’n mynd i gyrraedd at neuadd cyngor Kraainem.
Gyda fy map de Rouck Groot Brussel – y map mwyaf hylaw sydd ar gael – yn fy llaw o fewn ychydig funudau roeddwn i’n cerdded i lawr Lijsterbessenbomenlaan tuag at gyfeiriad canol y dref. Roedd yr ardal hon yn gwneud i Ukkel ymddangos yn ‘goman’. Fel Wezembeek-Oppem, mae Kraainem yn un o gymunedau cyfoethocaf Gwlad Belg. Mae gwleidyddiaeth leol yn canolbwyntio ar iaith yma eto. Mae’r dref yn agos y maes awyr rhyngwladol, pencadlys NATO a’r sefydliadau Ewropeaidd, ac felly yn denu nifer o dramor i fyw yma. Y maer yw Arnold d’Oreye de Lantremange, un arall o’r rhai y gwrthododd gweinidog llywodraeth leol Fflandrys eu cadarnhau yn eu swydd oherwydd nad oeddent yn fodlon cadw at gyfreithiau ieithyddol y rhanbarth Mae’r ddadl honno yn parhau ar hyn o bryd.
Fel yn Wezembeek-Oppem y lle cyntaf imi ei weld go iawn oedd canolfan ddiwylliannol Iseldireg de Lijsterbes. Ond roedd gan y dref hon o 13,000 awyrgylch pentref.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael