Dwy gymuned arall ar gyrion Brwsel

Ar y tramDydd Iau (2007-12-27). Wedi ymweld â Vilvoorde ddoe dyma droi yn ôl heddiw at y faciliteitengemeenten, sef y cymunedau hynny ar gyrion Brwsel sydd yn Fflandrys Iseldireg ond sydd yn cynnig rhai hawliau i siaradwyr Ffrangeg. Fel y mae’n amlwg, canlyniad i gyfaddawdu ddechrau’r 1960au yw’r cymunedau hyn – nid ydyn nhw’n plesio neb. Mae’r Fflandryswyr yn ei gweld hi fel sarhad arnyn nhw fod rhai nad oes ganddynt yr un bwriad o ddysgu Iseldireg yn derbyn hawliau a fwriadwyd yn wreiddiol fel pont tuag at siarad yr iaith honno. I’r siaradwyr Ffrangeg dyw hi’n gwneud dim synnwyr o gwbwl nad oes ganddyn nhw’r un hawliau â siaradwyr Ffrangeg Brwsel, yn arbennig felly gan fod y cymunedau hyn bellach i bob pwrpas yn rhan o Frwsel.

Mae hyn i gyd yn wir am y ddwy gymuned yr oeddwn yn bwriadu ymweld â hwy heddiw – Wezembeek-Oppem a Kraainem. Yn ôl amcangyfrifon lled ddiweddar mae dros 70% o boblogaeth y ddau le yn siaradwyr Ffrangeg neu iaith arall heblaw am Iseldireg. Mae’r ddwy gymuned yn gorwedd ar ochr ddwyreiniol y ddinas ac yn gymaint rhan o wead Brwsel fel ei bod yn hawdd mynd iddyn nhw ar sustem drafnidiaeth y brifddinas. Ar dram 39 o orsaf Montgomery i gyfeiriad Ban Eik yr es i Wezembeek-Oppem.

Mae’r enw yn un trawiadol yn y lle cyntaf ac yn rhoi rhyw ramant i’r lle, ond dwi’n ofni taw biwrocratiaeth sydd wedi creu’r enw. Ceir nifer o lefydd gydag enwau ‘deuol’ yn Fflandrys. Deillia’r cyfan o ddiwygio’r sustem o gynghorau lleol a ddigwyddodd ganol y 1970au. Bryd hynny lleihawyd y nifer o gynghorau lleol yn y wladwriaeth o 2739 i 589 (o’r rheiny mae 308 yn Fflandrys). Fel arfer fe fabwysiadodd y cynghorau newydd hyn enw’r dref neu’r pentref mwyaf o fewn eu ffiniau. Ond mewn rhai achosion roedd ‘na anghydweld ac yn aml iawn yr ateb oedd gosod enwau dwy dref neu bentref ynghyd i greu enw’r gymuned newydd. Dyna hanes Wezembeek-Oppem. Mae dau bentref yn bodoli mewn gwirionedd o’r enw Wezembeek ac Oppem, ond un cyngor cymuned ac mae wedi mabwysiadu enw’r ddau le yn un.

Wezembeek-Oppem

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>