Yn rhyfedd iawn mae i Vilvoorde ran yn hanes crefyddol Lloegr a’r Beibl Saesneg yn benodol. Hyd yn oed cyn i Martin Luther lansio’i brotest yn Wittenberg roedd galw wedi bod am sicrhau fod ysgrythurau sanctaidd yr Hen Destament a’r Newydd ar gael mewn iaith heblaw am Ladin. Fe aeth rhai ati i ddechrau cyfieithu heb dderbyn unrhyw awdurdod neu gomisiwn i wneud hynny gan yr eglwys. Un ohonynt oedd William Tyndale. Cafodd ei eni yn swydd Gaerloyw tua 1494. Mae’n debyg iddo ddod o dan ddylanwad syniadau crefyddol newydd yr oes ym mhrifysgol Rhydychen ac o’r cyfnod hwnnw mae’n debyg y daeth ei ddymuniad i droi’r Beibl i’r Saesneg. Wrth gwrs doedd hynny ddim wrth fodd yr awdurdodau gwleidyddol na chrefyddol ar y pryd a bu’n rhaid iddo ffoi i chwilio am ryddid i wneud y gwaith ac i’w gyhoeddi. Aeth o ddinas i ddinas yn yr Almaen ac yn raddol llwyddodd yn ei waith ac fe ymddangosodd ei Destament Newydd Saesneg yn 1526. Yn 1531, ac yntau yn byw yn Antwerpen, cyhoeddodd fersiwn Saesneg o’r Pumllyfr. Yn 1534 ymddangosodd fersiwn diwygiedig o’i gyfieithiad o’r Testament Newydd. Ond yr oedd y rhwyd yn cau amdano. Yr oedd wedi ymosod yn hallt ar yr ymdrechion i ennill ysgariad i Henry VIII ac fe apeliodd yntau ar i’r Ymerawdr Karel V i ddelio gyda’r heretic. Dyna a ddigwyddodd yn 1535 pan gafodd ei arestio yn Antwerpen a’i ddwyn i gastell Vilvoorde i’w roi ar brawf. Wedi’i gael yn euog yn Vilvoorde hefyd y cafodd ei ddienyddio trwy ei glymu wrth y stanc, ei dagu a’i losgi. Yn ôl yr hanes ei eiriau olaf oedd “Oh Lord, open the King of England’s eyes”.
Mae William Tyndale yn cael ei gofio heddiw trwy gofeb a pharc wedi’i enwi ar ei ôl. Welais i ddim mo’r gofeb honno. Ond fe welais gartref yr eglwys Brotestannaidd yn Vilvoorde sy’n dwyn ei enw. Yno hefyd mae ‘na amgueddfa fechan sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr a doedd dim ar agor. Doeddwn i ddim wedi trefnu i’w hagor ond efallai y byddaf yn ceisio gwneud y tro nesaf.
Mae Cymdeithas William Tyndale yn ceisio cadw ei enw yn fyw fel un o’r dylanwadau allweddol ar fywyd crefyddol ac ieithyddol Lloegr. Dyma beth ddywedir am ei gyfieithiad o’r Testament Newydd i Saesneg a gyhoeddwyd yn 1526: “The publication in 1526 of a modestly-priced pocket edition of the New Testament in English was arguably the most important single event in the history of the English Reformation.”. Maen nhw’n pwysleisio ei gyfraniad i ddatblygiad yr iaith Saesneg o dan y frawddeg: “No Tyndale, No Shakespeare”!
Dyma gyfieithiad Tyndale o’r gwynfydau, Mathew 5.3-11.
Blessed are the poor in spirit: for theirs is the kingdom of heaven.
Blessed are they that mourn: for they shall be comforted.
Blessed are the meek: for they shall inherit the earth.
Blessed are they which hunger and thirst for righteousness: for they shall be filled.
Blessed are the merciful: for they shall obtain mercy.
Blessed are the pure in heart: for they shall see God.
Blessed are the peacemakers: for they shall be called the children of God.
Blessed are they which suffer persecution for righteousness’ sake: for theirs is the kingdom of heaven.
Blessed are ye when men revile you, and persecute you, and shall falsely say all manner of evil sayings against you for my sake.
Rejoice, and be glad for great is your reward in heaven. For so persecuted they the prophets which were before your days.
Does dim lot mwy y galla i ei ddweud am gyfraniad Tyndale. Dim ond sylwi fod yr un ysbryd yn union i’w weld yng ngwaith rhai o gyfieithwyr y Beibl i’r Gymraeg, yn arbennig felly William Salesbury a Richard Davies. A bu eu dylanwad crefyddol a diwylliannol yr un mor arwyddocaol, os nad yn fwy felly. Diolch amdanyn nhw.





![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael