S.O.S. Galw Gari Tryfan

GariTryfan4Newydd dreulio awr ddifyr yn gwylio’r ffilm SOS Galw Gari Tryfan (Boomerang) ar wefan S4C. Weithiau mae’n rhaid cyfaddef fy mod yn rhyfeddu at ddyfeisgarwch rhai awduron. Roedd hyn yn bendant yn wir am y rhaglen hon. Er nad ydw i wedi gweld cyfresi tebyg yn Saesneg yn mynd â ditectifs o gwmpas mewn amser dwi’n clywed eu bod nhw’n boblogaidd iawn. Os ydyn nhw’n golygu hanner cymaint o sbort ag a gefais i yn gwylio Gari Tryfan dyw hynny ddim yn syndod. Mae’r rhai sy’n fy adnabod yn gwybod nad oes gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn ditectifs a doedd hynny ddim yn amharu dim ar fy mwynhad. Fe fues i chwerthin a chwerthin wrth ymateb llawn ofn a dychryn Gari Tryfan i sylweddoli nad oedd modd iddo fynd yn ôl i 1957, “Ydw i’n gaeth i’r unfed ganrif ar hugain?” Roedd hi’n ddifyr iawn gweld Cymru 1957 yn dod wyneb yn wyneb â Chymru 2008. Doeddwn i’n gwybod y nesa peth i ddim am Gari Tryfan, a does gen i ddim diddordeb mewn ditectifs, ond roedd yr ysgrifennu’n ddifyr a’r actio’n dda, ac felly doedd dim ots am y pethau eraill – roedd hi’n rhaglen dda a dyna’r cyfan oedd yn bwysig. Roedd y rhediad-ar-ôl ceir yn glasur, ac mae’n rhyfedd beth gall ychydig o redeg o gwmpas a cherddoriaeth uchel ei wneud o ran creu tensiwn a chynnwrf. Rhyfedd hefyd na ddaeth y te i ben wrth ffilmio’r rhaglen. Pethau bach oedd yn bwysig i wneud hon yn rhaglen gofiadwy ond erbyn y diwedd roeddwn i am weld datrys yr achos hyd yn oed!

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar S.O.S. Galw Gari Tryfan

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>