Dydd Mercher (2007-12-26). Mae’r diwrnod wedi’r Nadolig yn medru bod yn ddi-ddim iawn wedi’r holl gynnwrf a’r paratoi ar gyfer dydd Nadolig ei hun. Er mwyn osgoi’r ymdeimlad hwnnw roeddwn i wedi cadw rhywbeth arbennig ar gyfer brecwast fore Gŵyl Steffan. Wrth i’r byd fynd yn fwy ac yn fwy tebyg ar draws y gwledydd, mae’n dda fod ‘na rai pethau sy’n wahanol o hyd. Wrth gerdded i mewn i archfarchnad fwyd ym Mrwsel nid yw’n wahanol iawn i gerdded i mewn i archfarchnad debyg yn Aberystwyth. Ond mae ‘na rai pethau sydd yn dal i fod yn ddarganfyddiad sy’n llawn rhyfeddod. Un o’r pethau hynny i mi oedd y cougnou. Math o fara yw’r cougnou sydd i fod i edrych fel y baban Iesu, ac mae’n cael ei fwyta i frecwast yn ystod tymor y Nadolig. Yn gyffredinol y mae wedi’i gyfyngu i ardal Walwnia, de Gwlad Belg ac felly mae’n cael ei adnabod yn arferol wrth ei enw Ffrangeg. Mewn Iseldireg mae’n cael ei alw yn volaren neu’n folarts. Mae’n fara melys gyda ffrwythau sychion ynddo, ac yn aml iawn fe fydd yna addurn mewn siwgr ar y bara a hynny weithiau ar ffurf baban Iesu arall! Roedd yn ffordd dda iawn o ddechrau’r diwrnod pan fyddwn i’n mynd ar fy nhaith i Vilvoorde.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael