Diolch am dy sylwadau Garn, ac am dy sylw pryfoclyd Dafydd ar y cofnod Sylwadau ar sylwadau. Nadw, dwi ddim wedi darllen pob un llyfr sy’n gymwys ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2008. Ond dwi ddim yn credu nad yw hynny’n meddwl y galla i gredu fod un gyfrol yn deilwng o’r wobr ac [...]
Mae ‘na adroddiad diddorol iawn ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru, sef canlyniad ymchwil marchnata i arferion Prynu a Darllen Llyfrau Cymraeg a wnaed dros gyfnod o dair blynedd. Mae’n llawn ffigyrau diddorol am bwy sy’n prynu a darllen llyfrau wrth gwrs, ond hefyd mae’n dweud i ba ddosbarth economaidd maen nhw’n perthyn, ym mha ardaloedd [...]
Dwi’n teimlo fy mod wedi derbyn tipyn o anrhydedd yr wythnos hon. Nos Wener yn y cwis yng Nghlwb Golff Capel Bangor gofynnodd GH, un o’r cystadleuwyr, a oeddwn i wedi darllen Y Cymro yr wythnos honno. Yr ateb onest oedd nad oeddwn wedi’i brynu hyd yn oed, ond wnaeth y sefyllfa ddim aros fel [...]
Dydd Sadwrn roeddwn i yn Eglwys y Santes Fair ar gyfer gwasanaeth angladd un o’r aelodau. Fore Sul yr oeddwn yn ôl yn yr eglwys ar gyfer gwasanaeth y Cymun Bendigaid. Yn y nos yr oeddwn i’n pregethu yno hefyd, ond nid fi oedd yn arwain y gwasanaeth; Adrian Morgan, myfyriwr ymchwil yn yr Adran [...]
Dwi’n falch o ddweud nad oedd y penwythnos yn un rhy brysur. Roedd digon i’w wneud, ond roeddwn i’n teimlo fy mod â phopeth o dan reolaeth (bron â bod!). Nos Wener fe fues i mas yng Nghlwb Golff Capel Bangor, nid i chwarae golff, ond er mwyn bod yn gwis feistr mewn cwis wedi’i [...]
Beth sy’n gwneud siop lyfrau dda yn un wych? Wel i mi mae’n rhaid i siop gynnig cyfuniad o wasanaethau gwahanol i fynd i ar dop fy rhestr. Rhaid bod y siop yn cadw dewis o lyfrau sy’n cynnwys llyfrau nad ydw i’n eu gweld nhw bob dydd mewn pentyrrau enfawr yn y siopau unffurf [...]
Efallai na fyddwn i am roi’r argraff fy mod wedi bod mewn eglwys neu gapel am y rhan helaethaf o’r penwythnos rhag ofni iddo wneud tolc go fawr yn fy street cred; ond dwi’n ofni taw dyna’r gwir! Heblaw am wasanaeth offeren requiem John Fitzgerald bues i yng ngwasanaeth Cymun Bendigaid am 8.00am fore Sul [...]
Heddiw fe fues i yn ngwasanaeth coffa, neu offeren requiem, y Tad John FitzGerald. Fe wnes i ysgrifennu pwt am John pan bu farw ‘nôl ddiwedd mis Tachwedd 2007. Cynhaliwyd ei angladd yr ochr draw i Lundain, yn Aylesford, swydd Caint. Dyna gartref Urdd y Carmeliaid ym Mhrydain ac yn draddodiadol dyna lle y caiff [...]
… ac yn ei wrando
Fe ddaeth yr amser unwaith eto i ysgafnhau ychydig ar faich trwm y ford goffi. Dwi ddim yn credu imi glirio ers cyn imi fynd i Frwsel. Felly mae ‘na dipyn o amrywiaeth arni, yn llyfrau a CDau. Hoffwn petawn yn medru rhestru rhai o’r rhaglenni teledu mae DML yn eu [...]
Bu’r ymgais i ysgrifennu geiriau ar gyfer anthem genedlaethol y wladwriaeth Sbaenaidd yn fethiant. Wedi misoedd o chwilio a dewis, doedd y geiriau ddim yn plesio; mae’n weddol anodd i anthem genedlaethol beidio â swnio’n debyg i’r fath o beth fyddai wedi plesio Franco. Prin yw’r anthemau cenedlaethol nad ydyn nhw’n dyrchafu’r genedl mewn rhyw [...]
Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog, ac nid wrth y rhaglen gyntaf y mae beirniadu cyfres deledu, yn arbennig felly cyfres ddrama. Ond, dyna dwi am wneud! Fe wnes i weld y rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd ar S4C nos Sul, Y teulu (Boomerang). Mae’r ddrama hon wedi’i gosod yn Aberaeron, Ceredigion, gyda [...]
Heno fe fues i mas mewn cyfarfod o bwyllgor Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth. Cafwyd cyfarfod digon buddiol. Ond roeddwn i am fod mewn rhywle arall hefyd, ar yr un pryd ac wrth gwrs i feidrolyn fel fi mae hynny’n amhosib. Y lle’r oeddwn i am fod oedd yng nghyfarfod cylch darllen Aberystwyth. Fel arfer [...]
Mae ‘na erthygl ddiddorol gan Andreas Whittam Smith yn yr Independent heddiw ynglŷn ag achos y rhoddion ariannol i ymgyrch Peter Hain i fod yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig. Mae’n werth cael golwg arni.
(Dim pleidlais eto)
Nid yn aml y bydd catalogio neu fynegeio yn y newyddion; wel, byth i ddweud y gwir. Ond mae pethau wedi newid. Ar wefan newyddion y BBC ddoe roedd stori am benderfyniad Llyfrgell y Gyngres i beidio â mynegeio ffuglen o’r Alban fel English literature, US U-turn over Scottish authors.
(1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 1.00 [...]
Yr ochr arall i’r Grote Markt i neuadd y ddinas ym Mechelen y saif eglwys gadeiriol Sint-Romboutskathedraal. Yn ôl un sylwebydd “The cathedral is one of the most impressive Gothic buildings in Europe.” Ar ôl bod i weld y lle fy hunan gallaf dystio nad gor-ddweud yw hynny. Dechreuwyd codi’r adeilad presennol tua 1217. Fel [...]
Fel dwi wedi’i ddweud droeon yn fy mhrofiad i yn ddi-ffael mae gan bob tref a dinas yn Fflandrys brif sgwâr, Grote Markt, ar gyfer eu marchnad. Fel arfer o gwmpas y Grote Markt bydd adeiladau pwysig y dref, gan gynnwys neuadd y cyngor. Nid yw Mechelen yn ddim gwahanol. Roedd hi’n ddydd Sadwrn ac [...]
Cychwynnais ar fy nhaith o gwmpas Mechelen trwy gwrdd â chyfeillion wrth yr orsaf. Roeddwn i wedi cwrdd â’r dau o’r tri o’r blaen – fy nghyfeilles Liesbeth a Kevin – ond dyma gyfarfod â Joris am y tro cyntaf. Mae e’n byw yn Leuven ac yn gweithio i gwmni cyfrifiadurol. Er ei bod hi’n [...]
Jyst cyn y Nadolig fe gyhoeddodd y swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, National Statistics, eu rhestrau blynyddol o enwau plant mwyaf poblogaidd y flwyddyn yn ôl cofrestriadau genedigaethau. Ym mhlith y restrau mae rhai ar gyfer Cymru, yn gosod allan y 30 enw gwrywaidd a benywaidd mwyaf poblogaidd i’w rhoi ar fabis yn ystod y flwyddyn. Diddorol [...]
Sefydlwyd Mechelen yn canol oesoedd fel pentref ar lan afon Dijle. Yn 756 roedd Sant Rombout wedi cynnull cymuned Gristnogol yma ac wedi pregethu’r efengyl yn yr ardal. O ganlyniad troes llawer o’r brodorion at Gristnogaeth. Does dim rhyw lawer yn wybyddus am Rombout ond yn ôl traddodiad yr oedd yn dod o’r Alban neu [...]
Dydd Sadwrn (2007-12-29). Heddiw yr oeddwn i wedi trefnu mynd am dro i ddinas Mechelen yng nghwmni Liesbeth a rhai o’i ffrindiau. Mae Mechlen yn gorwedd rhwng Brwsel ac Antwerpen ac yn ogystal â bod yn grud Cristnogaeth yr ardal ac yn gartref i archesgobaeth Babyddol Gwlad Belg, mae’r ddinas hefyd yn ganolfan i wneud [...]
|