Wedi diwrnod llawn iawn yn Aalst daeth yn amser i fynd yn ôl i Frwsel ac felly cyn gadael dyma alw am goffi ym mar Bergenhof gyferbyn â’r orsaf. Roeddwn i wedi dod â llyfr yn anrheg i Liesbeth, gramadeg y Gymraeg, ac wrth imi estyn y llyfr iddi fe sylwodd y rheolwr arno a [...]
Holl bwynt y belfort a’r schepenhuis oedd dweud wrth y byd fod Aalst yn bwysig. Mae’r belfort a’r schepenhuis yn dal i fod yno, ond mae pethau wedi newid a dyw Aalst ddim mor bwysig ag yr oedd yn arfer bod. I ddweud y gwir fe wnaeth hynny newid cyn iddyn nhw orffen adeiladu eglwys [...]