Ymweld ag Aalst (3)

Efallai y dylwn fod wedi troi fy sylw yn gyntaf nid at y Geraardsbergse mattentaart, ond yn hytrach at y trysorau sydd mor bwysig fel eu bod wedi’u rhestru fel rhan o’n hetifeddiaeth fyd-eang gan UNESCO, sef y Belfort a’r Schepenhuis, neu’r Tŵr clychau a Thŷ’r henaduriaid. Mae’n anodd gor-bwysleisio pwysigrwydd hanesyddol y ddau adeilad. [...]

Ymweld ag Aalst (2)

Ar ôl cyfarch a holi hynt a helynt iechyd a theithio fe aeth Liesbeth a Sieglinde â mi i’r prif sgwâr, neu’r Grote Markt (mae un i gael ym mhob tref, nid dim ond ym Mrwsel). Wrth gwrs doedd hi ddim yn bosib imi weld holl ogoniant y sgwâr gan fod ffair Nadolig fawr ar [...]

Ymweld ag Aalst (1)

Dydd Sul (2007-12-23). Heddiw roeddwn i wedi cael gwahoddiad i ymweld â dinas Aalst. Bydd darllenwyr cyson Blog Dogfael yn gwybod fy mod yn adnabod cwpwl o bobol yn Fflandrys – daethon nhw i’r Eisteddfod Genedlaethol fis Awst ac fe es i ac RO i’r IJzerbedevaart yn eu cwmni rhyw bythefnos yn ddiweddarach. Liesbeth a’i [...]

Ymweld â Sint-Genesius-Rode

Dydd Sadwrn 2007-12-22. Mae maestrefi unrhyw ddinas yn weddol debyg i’w gilydd – mae’n dibynnu ar gyfoeth y lle a’r lleoliad mae’n wir – ond ar y cyfan maen nhw’n debyg o normal. Felly fe ddylwn i fod wedi bod yn barod ar gyfer fy ymweliad â Sint-Genesius-Rode; hynny yw, fe ddylwn i fod wedi [...]