Marian Delyth ‘Yr ail filltir’

Marian DelythDwi wedi treulio’r nos yn lapio anrhegion Nadolig. Nid bod llawer i’w wneud ond mae lapio’n broses sy’n cymryd llawer o amser i’w wneud yn hanner iawn. Rhaid mesur y papur yn weddol ofalus ac osgoi ei dorri a rhaid dod o hyd i’r ffordd iawn o lapio anrhegion o’r siâp anghywir. Cymaint y gwaith fel y gwnes i fethu rhaglen Y Sioe Gelf (Cwmni Da) ar S4C. Roedd hon yn rhaglen yr oeddwn am ei gweld yn arbennig am ei bod yn dweud hanes y ffotograffydd Marian Delyth yn dychwelyd i’r Mynydd Bach lle’r oedd hi wedi bod yn gweithio ddeng mlynedd ar hugain yn gynt ar un o’i phrosiectau ffotograffig cynharaf o dan y teitl ‘Y filltir sgwâr’. Ond diolch i wasanaeth gwylio eto S4C, Gwylio yma, roeddwn i’n medru edrych ar y rhaglen trwy’r rhyngrwyd. Ac roedd hi’n rhaglen dda iawn. Rwyf yn adnabod Marian ac fe lwyddodd y rhaglen gyfleu peth o’i hymrwymiad hi at ei gwaith fel ffotograffydd a’i chenhadaeth i gyfleu rhywbeth o’r ymdeimlad o fygythiad oedd i fywyd cefn gwlad yn y 1970au.

Marian DelythWrth ddychwelyd mae llawer o’r hyn oedd yn bygwth ddeng mlynedd ar hugain yn ôl wedi’i wireddu bellach. Ond yn rhyfedd iawn, doedd hi ddim yn ymddangos fod hynny wedi dod â phob peth drwg posib gydag ef. Roedd Marian ei hun a’r rhai yr oedd hi’n tynnu eu lluniau fel petaent wedi dod o hyd i ffordd i ymdopi gyda’r newidiadau yr oeddent wedi’u profi. Rhan o hynny yw’r ffaith iddynt fyw trwy’r newid a bod hynny ynddo’i hun yn creu y gallu i oroesi – dyna sut ydyn ni fel pobol. Rydyn ni’n newid hefyd, newid am fod rhaid inni efallai, ond rydyn ni’n newid, ac roedd Marian yn cyfaddef hynny hefyd. Mae’r newid wedi bod yn “ddirdynnol” yn ôl Marian ar y rhaglen, yn arbennig felly yr hyn sydd wedi digwydd i’r diwylliant Cymraeg yn yr ardal. Eto i roedd ‘na ryw ymdeimlad o fod gweld hynny o bersbectif gwahanol- fel rhywbeth oedd yn digwydd o leiaf yn gyffredin mewn ardaloedd gwledig ar hyd a lled Ewrop – yn rhoi rhyw allu i ymdopi a’i herio i Marian, a bod hynny i’w ymdeimlo yn y ffotograffau y mae’n eu tynnu ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach. Dyfynnodd sylw Henri Cartier-Bresson fod ffotograffiaeth yn gyfuniad o’r pen, y llygad a’r galon, ac yn bendant roedd y galon – emosiwn – yn rhan bwysig o brofiad ffotograffig Marian yn y Mynydd Bach.

Rhaglen gwerth ei gweld eto yw hon – felly gobeithio y bydd hi ar wefan S4C am dipyn.

Marian Delyth

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>