Gwasanaeth carolau yn Eglwys y Santes Fair

Cyflwyniad plant yr Ysgol SulEr nad yw calendr yr eglwys yn dweud ei bod hi’n Nadolig eto – yn swyddogol mae’n dal i fod yn dymor yr Adfent – cynhaliwyd y Gwasanaeth carolau blynyddol yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth ddydd Sul (2007-12-16) am 3.00pm. Gyda chymaint o unigolion a theuluoedd yn mynd ar eu gwyliau dros y Nadolig ei hun mae’n rhaid cynnal gwasanaethau Nadolig cyn y tymor ei hun fel bod teulu’r eglwys yn medru dathlu gyda’i gilydd! Ond doedd rheolau’r calendr yn poeni dim ar y gynulleidfa dda a ddaeth ynghyd i ganu mawl, i wrando ar ddarlleniadau o’r ysgrythurau, ac i weddïo. Roedd hi’n dda hefyd medru croesawu cyfeillion hen a newydd atom ni ar gyfer y gwasanaeth arbennig hwn. Fel arfer roedd plant yr ysgol Sul yn cymryd rhan amlwg ynghyd â’r grŵp cerdd. Anerchwyd gan y ficer, y Parchg Andy Herrick, a’i thema oedd “Nid oedd lle iddo yn y gwesty” yn dangos nad oedd lle i Iesu Grist yn y gwesty pan gafod ei eni a sut y mae’n bosib i ni lenwi ein bywydau i’r fath raddau fel nad oes lle iddo yn ein bywydau ninnau heddiw chwaith. Nid yw pob un o rieni plant yr Ysgol Sul yn rhugl eu Cymraeg ac felly er mwyn iddyn nhw deimlo’n rhan o’r gwasanaeth roedd ‘na gyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg. Wedi’r gwasanaeth roedd ‘na groeso i bawb aros am baned a sgwrs.

Rhagor o luniau o’r Gwasanaeth carolau.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>