Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod arbennig oherwydd dyna’r tro cyntaf imi gwrdd â’r enwog Chris Needs. I’r rhai ohonoch nad ych chi’n gyfarwydd â Chris mae’n e’n cyflwyno rhaglen 3 awr bob nos ar Radio Wales. Ond nid darlledwr cyffredin mo Chris – mae’n sefydlu perthynas gref iawn gyda’i gynulleidfa ac maen nhw’n ei ffonio’n gyson ac yn rhannu problemau dyrys bywyd gydag ef. Maen nhw’n gwneud hynny, hyd y galla i weld, oherwydd eu bod nhw yn ymddiried ynddo a’i fod mor barod i rannu y problemau a’r boen y mae yntau wedi’i ddioddef mewn bywyd a’r ffordd y mae wedi’u goresgyn. Dwi’n ofni i ddweud taw ffonio i mewn i raglen radio byddai’r peth diwethaf fuaswn i’n ei wneud gyda phroblemau o’r fath, ond ar ôl siarad gyda Chris ddydd Sadwrn dwi’n dechrau deall pam fod pobol yn gwneud. Yr hyn sy’n wych am Chris, yn fy marn i, yw ei fod yn gwneud hyn y gyd gyda steil sydd yn Gymreig iawn – yn adlewyrchu ei fagwraeth yng Nghwmafan – ond gyda chyffyrddiad (ysgfan) o’r sioe broblemau nad yw byth yn troi yn voyeurism; yn hytrach y mae’n rhywbeth adeiladol ac affirmiadol.
Y rheswm bod cyfle wedi codi imi gwrdd â Chris Needs oedd am ei fod yn dod i’r Llyfrgell Genedlaethol i arwyddo copïau o’i lyfr, ei hunangofiant, Like it is, ac roeddwn i wedi cael gwahoddiad i gadeirio sesiwn drafod gyda Chris yn y Llyfrgell. Darllenais i’r llyfr bron â bod mewn un eisteddiad. Mae wedi’i ysgrifennu yn y fath fodd fel bod arddull radio Chris yn cael ei hadlewyrchu’n dda iawn yn y llyfr. Nid yw’r cyfan yn heulwen a siwgr gan ei fod yn cyffwrdd a llawer o brofiadau tywyll a thrist yn ei fywyd; ond mae ganddo hefyd nifer o straeon i godi calon. Mae’n sôn yn ddifyr iawn am sut oedd hi i fod yn ddyn ifanc gwahanol i’r rhelyw yng Nghwmafan – er enghraifft, y dyn cyntaf yn y pentref â chlustdlws! Ond doedd hynny yn ddim o’i gymharu â’r ffordd yr oedd yn cael ei drin oherwydd ei rywioldeb a’i holl agwedd wahanol at bethau. Eto i gyd roedd ‘na bobol oedd yn gefn iddo, ac yn bennaf yn eu plith roedd ei fam, sy’n swnio’n fenyw a hanner o ddarllen yr hunangofiant.
Roeddwn i’n teimlo fy mod yn adnabod Chris yn weddol gan fy mod yn gwrando ar ei raglen radio yn weddol aml. Ond weithiau mae’n bosib cael camargraff o rywun o’r cyfryngau, ond mae’n rhaid imi ddweud fod Chris yn gywir fel yr oeddwn wedi’i ddychmygu, os rhywbeth yr oedd hi’n haws siarad gydag ef nag oeddwn i wedi’i ddychmygu. Yr hyn oedd yn fy nharo hefyd oedd ei ymrwymiad i’w waith ac i’w gynulleidfa – roedd hynny’n amlwg iawn yn y ffordd yr oedd yn siarad amdanynt. Roedd gennym ni un peth yn gyffredin, sef diddordeb mawr mewn Iseldireg – mae Chris yn siarad yr iaith yn rhugl am iddo fyw am gyfnod yn yr Iseldiroedd, ac oherwydd i wncwl iddo briodi gwraig o Wlad Belg – Anti Beti Belgium. Ond fe ddysgais nad yw’n rhy hoff o ganu gwlad, yn arbennig felly Glen Campbell! Fe ddywedodd hynny ddwywaith. Roedd hi hefyd yn agoriad llygad i weld ymateb ei ddilynwyr iddo a’r berthynas real (fel yr ymddangosai i mi) yr oedd ganddo gyda hwy.
Rhagor o lunaiu o ymweliad Chris Needs â Llyfrgell Genedlaethol.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael