Wedi talu gwrogaeth wrth y London Stone, roedd yn amser imi fynd ymlaen i gyfeiriad eglwys gadeiriol St Paul’s. Ond nid yr eglwys ei hun oedd yn fy nenu – roeddwn i wedi ymeld â honno o’r blaen – ond yr ardal o’i chwmpas, St Paul’s Churchyard. Roedd hi’n arferol i gael siopau o gwmpas eglwysi mawrion ac eglwysi cadeiriol, ond roedd St Paul’s Churchyard yn enwog fel cartref i argraffwyr a llyfrwerthwyr. Digwyddodd hyn yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn dilyn diwygiadau crefyddol Henry VIII. O gwmpas yr eglwys yr oedd yna lawer o gapeli a chysegrfeydd a gafodd eu cau neu eu tynnu i lawr o dan orchymyn brenhinol yn dilyn torri’r cysylltiad â Rhufain, ac fe werthwyd llawer o’r adeiladau i’w troi’n siopau ac am ryw reswm fe ddenwyd argraffwyr a llyfrwerthwyr i’r lle. Roedd ‘na draddodiad o drafod syniadau ac o bregethu awyr agored yn ardal St Paul’s Churchyard ac mae’n bosib fod hynny wedi bod yn rheswm dros ddenu’r llyfrwerthwyr yno i fanteisio ar farchnad barod. Parodd y traddodiad hwn o argraffu a gwerthu llyfrau tan y tân yn 1666. Wedi’r tân fe ddychwelodd rhai llyfrwerthwyr, ond doedd pethau ddim yr un fath wedyn. Symudodd llawer o’r busnesau o St Paul’s Churchyard i Paternoster Row sydd ond ychydig i’r gogledd. Bu Paternoster Row yn gartref wedyn tan i fomio didrugaredd yr Almaen Natsïaidd ddinistrio’r ardal yn y 1940au.
Yn agos at Paternoster Row, ac hefyd i’r gogledd o’r eglwys gadeiriol, saif Paternoster Square. Dinistriwyd yr ardal yn ystod y Blitz yn y 1940au ac fe gafodd ei datblygu o’r newydd yn nechrau’r 1960au. Nid oedd hynny’n beth poblogaidd ac felly yn y 1990au aed ati i’w ail-ddatblygu unwaith eto. Dwi ddim yn gwybod a yw hyn yn fwy llwyddiannus, ond mae ‘na rai pethau da am y sgwâr (neu piazza fel maen nhw’n mynnu dweud) sydd yno bellach – efallai y mwyaf trawiadol yw cerflun Elisabeth Frink, Paternoster. Heb fod yn bell mae’r Gyfnewidfa Stoc, a digon o siopau coffi i foddi’r ddinas mewn hylif brown blasus.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael