Llundain 2007-10 (5)
Dwi’n ofni fy mod yn dal i feddwl am y London Stone. Doeddwn i erioed wedi clywed am y peth o’r blaen nes imi fynd i St Swithins Lane, ac er na chefais hyd i gofeb Catrin ferch Owain Glyn Dŵr dwi’n credu fod darganfod y garreg hon yn gwneud iawn am hynny. Yn ôl traddodiadol mae’r garreg yn mynd â ni yn ôl i ddyfodiad y Brythoniaid neu’r Prydeinwyr (cyn-deidiau’r Cymry) i’r ynys hon. Credai’r Cymry taw Brutus o Gaer-droia oedd sylfaenydd Prydain – dyna ddywedodd yr hanesydd Nennius yn y 9fed ganrif, ac yn bendant dyna oedd barn Sieffre o Fynwy (1090?-1155), awdur Brut y Brenhinoedd – a gwae neb a wadai hynny. Yn ôl Sieffre Brutus oedd yn gyfrifol am sefydlu dinas Llundain, Caer-droia newydd, a’r traddodiad oedd taw darn o’r allor a gododd Brutus mewn teml i’r dduwies Diana ar safle presennol eglwys gadeiriol St Pauls oedd carreg y London Stone. Felly mewn ffordd o siarad yr oeddwn i wedi mynd yn ôl at fy ngwreiddiau a chyfoeth o chwedloniaeth. Efallai y dylai pob Cymro sy’n ymweld â’r ddinas wneud yn siŵr ei fod yn talu gwrogaeth i’r London Stone ac i Brutus.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael