Barddas Rhif 295 Tachwedd/Rhagfyr 2007

Barddas rhifyn 295Mae’r rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn Barddas wedi cyrraedd. Fe ddaeth y ddau gopi i’n tŷ ni ddoe ac mae’r ddau wedi’u byseddu’n helaeth. Unwaith eto mae’n rhaid cyfaddef fod y cylchgrawn yn un sy’n ennyn fy niddordeb. Mae’r cynnwys yn gymysgedd o’r echreiddig annisgwyl a’r cyffredin disgwyliedig ar yr un pryd. I ddweud y gwir mae nifer o’r erthyglau yn perthyn i’r ddau ddosbarth ar yr un pryd. Gwell imi beidio â dweud rhyw lawer am y clawr. Mae rhai wedi canmol ei symlrwydd; dwi’n ofni nad yw’n apelio rhyw lawer ata i ond mae nifer yn fy nghyhuddo i o fod yn rhy feirniadol yn aml iawn felly gwell ei gadael hi fan ‘na.

Yr erthygl gyntaf yw un Ceri Wyn Jones. Mae ef newydd gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, Dauwynebog, sy’n cael ei hadolygu yn y rhifyn hwn o’r cylchgrawn. Mae’n agor ei erthygl gyda hysbys i’r gyfrol, sy’n cael ei chyhoeddi gan Wasg Gomer gyda llaw, ac nid gan Gyhoeddiadau Barddas. Llwyddodd Ceri Wyn i roi gwên ar fy wyneb, rhywbeth nad yw llawer o golofnwyr Barddas yn medru ei wneud ac nad yw’r rhan fwyaf ohonynt am ei wneud. Yn ei erthygl mae’n darparu glosari o ymadroddion stoc ar gyfer beirniaid llenyddol. Dyma un neu ddau ohonynt.

3. ‘Mae yma ganu awgrymog a haenau o ystyr’ – nid wyf yn deall yr un gair
13. ‘bardd a chanddo gryn ddychymyg’ – mae’n dychmygu ei fod yn fardd
17. ‘Cymraeg cyfoes, arbrofol’ – Saesneg

Yn ei golofn olygyddol mae Alan Llwyd yn tynnu sylw at waith dau o aelodau’r Gymdeithas Gerdd Dafod sy’n byw yn Lloegr, ac yna arbennig gwaith Tony Snell sy’n ysgrifennu mewn Cernyweg, ac sy’n newydd cyhoeddi y gyfrol Pan dheuth an glaw. Mae ei waith yn cael ei ddyfynnu mewn Cernyweg ynghyd â chyfieithad Cymraeg.

Testun y golofn Fel hyn rwy’n ei gweld hi yw John Glyn Jones, cyn brif weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd. Yn ymateb i’r cwestiwn Sut yr hoffech chi newid y byd? Mae’n dweud “Ei gwneud yn anghyfreithlon i gynhyrchu neu i werthu arfau rhyfel, a rhannu cyfoeth y byd yn fwy cyfartal. Mae hyn yn gofyn cryn dipyn ond mae’n haws newid y byd yma na’r byd nesa’.”

Ceir pedwar englyn coffa i T R Jones gan Eirwyn George wedyn. Roedd T R Jones yn weinidog gyda’r Bedyddwyr yn Sir Benfro, ond yn dod o Danygrisiau yn wreiddiol. Unwaith eto ceir cyfieithiadau o waith R S Thomas gan Herbert Hughes. Mae’r cyfieithiadau yn llawer gwell na dim y gallwn i ei wneud ac eto dwi’n credu fod cyfieithu gwaith R S Thomas i’r Gymraeg yn wastraff amser ac egni. Efallai y bydd rhywun sy’n anghytuo yn fodlon esbonio beth yw pwynt hyn i mi. Dwi’n agored iawn i newid fy meddwl.

Awdur y golofn wadd yw Arwyn Groe o ogledd Powys, ac mae wedi dewis fel teitl Barddoniaeth i’r bobol. Beirniadaeth ar feirdd y colegau a’r llyfrgelloedd a geir yma: “Yn anffodus, ciliodd yr adar medrusaf dros y degawdau diwethaf i’r colegau a’r llyfrgelloedd i ganu. Ymhell o glyw heidiau perthi cefn gwlad. Canodd llawer ohonynt ymysg ei gilydd prin nes i’w cân droi’n annealladwy o estron pan ehedent allan ar dro i’w cynefinoedd ‘cyntefig’.”

Mae erthygl Bobi Jones yn ei gyfres o Adolygiadau hwyr gyda’r gorau unwaith eto. Dwi’n rhyfeddu at allu’r dyn i ysgrifennu mor ddifyr bron â bod bob amser. Nid fy mod i’n credu y bydd pawb yn cytuno gydag ef. Mae’n parhau i edrych ar y syniad o ganon a rhan John Morris-Jones, Saunders Lewis, ac yn arbennig Thomas Parry, yn y gwaith o greu’r canon Cymraeg. Wrth wneud hynny mae’n rhoi cic fach barchus a chwareus i’r rhai sy’n ceisio tanseilio’r canon hwnnw.

Yn ei golofn Angen cwest ar y cwestiwn mae Norman Closs Parry yn ymateb i her erthygl olygyddol y rhifyn diwethaf i fynd i’r afael â’r argyfwng fel y mae’n cael ei amlygu yn nirywiad cystadlaethau barddonol yr eisteddfod, ac yn enwedig yn y canu caeth. Mae Gwynfor ab Ifor yn gwneud yr un peth yn ei erthygl Argyfwng? Pa argyfwng? O ran ceisio deall beth sydd ganddynt i’w ddweud mae Norman Closs Parry yn fwy uniongyrchol a Gwynfor ab Ifor yn fwy awgrymog. I mae mae yntau yn mynd ar goll yn ei awgrym weithiau. Byddai’n llawer gwell petai wedi anghofio ei ddamhegion a siarad yn uniongyrchol. Beth yn union yw’r broblem gyda’r syniad o Fardd Cenedlaethol a Bardd Plant? Pwy yw’r cwango sy’n “llywio polisi llenyddol trwy agor a chau’r gist yn ôl ei feini prawf anysgrifenedig ei hunan”? Pam nad yw’n fodlon enwi’r cwango? Mae’n sôn am y bwlch rhwng rhwng beirdd Academi a Phrifysgol a beirdd Bro a Barddas ac yn cyfeirio at yr ail garfan yn gresynu nad yw barddoniaeth y garfan gyntaf “yn ddim mwy nag ‘ymarferiadau graenus’, yn hytrach na cherddi go iawn”. Cerddi go iawn? Eto i gyd ar ôl fy arwain mwy i dywyllwch na goleuni mae Gwynfor ab Ifor yn dweud taw dyma lle mae’r bardd yn ei gael ei hun – os taw dyna oedd ei bwynt mae’n llwyddo i’w wneud. Yn ei erthygl yntau mae Norman Closs Parry yn gofyn sut y gellid y gellid dod â newydd-deb i’r ddwy brif gystadleuaeth gan ofyn a ddylid edrych unwaith eto ar y trawstoriad sy’n cael eu dewis i feirniadu. “A ddylid cael un prifardd ymysg y tri, ac un academydd, a beth ddylai’r trydydd fod?” Byddwn i’n cael fy nhemtio ar ôl darllen erthygl Gwynfor ab Ifor i ateb “Un o gyflwynwyr Planet plant!”

Yn ei golofn mae Grahame Davies yn dechrau trwy drafod rhinweddau cyfieithiad Cymraeg John Morris-Jones a chyfieithiad Saesneg Edward FitzGerald o waith y bardd Perseg Omar Khayyám cyn ei fod yn dilyn nifer o lwybrau difyr at waith Robert Frost ac Edward Thomas. Mae Donald Evans yn ei golofn Rhuddin amser yn dechrau ar gyfres newydd o erthyglau o dan y teitl cyffredinol Cyfrol Gylchgrawn: Traddodiad a chyfoesedd gyda’r bwriad o fod yn “astudiaeth feirniadol o gerddi pwysicaf y beirdd hynny nad oeddynt yn perthyn i’r un o gategorïau canolog y canu rhydd a chaeth Cymraeg yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif.” A wel… efallai nid y tro hwn

Mae Dylan Iorweth yn bwrw golwg bellach dros awdl T James Jones a Andrea Parry (er nad yw’n cael ei henwi) yn ein cyflwyno i waith mwy o’r beirdd sy’n celu, disgyblion Ysgol Ffridd y Llyn. Yn ei golofn yntau mae Iwan Llwyd yn hel meddyliau am arfordir Cymru. Ceir y cerddi a adroddwyd i gyfarch Dai Rees Davies adeg cyhoeddi Y dwys a’r digri a’r cerddi a ganwyd yn lansiad Pethe achlysurol Llion Jones. Ceir hefyd pedwar tudalen o feirniadaeth ar gystadleuaeth yr englyn ‘Pavarotti’. A yw pedwar tudalen yn ormod?

Adolygir tair cyfrol: Guernika a cherddi eraill gan Emyr Edwards (Norman Closs Parry), Y dwys a’r digri gan Dai Rees Davies (Idris Reynolds) a Dauwynebog gan Ceri Wyn Jones (Alan Llwyd).

Dyna daith gyflym ac arwynebol trwy’r rhifyn newydd o Barddas. Mae’n werth cael gafael ar gopi.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>