Ddydd Sadwrn fy mwriad oedd mynd i ddinas Llundain i chwilio am y gofeb i Catrin ferch Owain Glyn Dŵr. Roedd Siân Phillips wedi dadorchuddio’r gofeb yn 2001 yn Cannon Street Gardens. Nid oeddwn yn rhy siŵr ble’r oedd Cannon Street Gardens, ond roeddwn yn weddol hyderus y buaswn yn dod o hyd iddyn nhw. Mae Cannon Street yn stryd amlwg iawn yn y ddinas yn rhedeg o Eglwys Gadeiriol St Paul’s hyd at y Monument. Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi bod yn ninas Llundain ar ddydd Sadwrn mae’r lle yn wag a’r holl siopau wedi cau. Does neb yno, heb law am ambell i dwrist fel finnau yn crwydro yn y gobaith o ddod o hyd i rywbeth diddorol. Roeddwn i’n gwybod fod Cartin ferch Owain wedi’i chladdu ym mynwent Eglwys St Swithin’s ond bod honno wedi’i dinistrio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac erbyn hyn dwi’n gwybod fod ‘na ardd ar ôl lle safai’r eglwys a mae yno y mae’r gofeb. Ond pan roeddwn i’n crwydro yn ninas Llundain doeddwn i ddim yn gwybod hynny. Fe welais i St Swithin’s Lane, lle’r oedd yr eglwys yn arfer bod, ond nid oeddwn yn gwybod fod yr ardd allan o’r golwg i fyny’r stryd fechan gul. Felly fe es i heibio iddi gan feddwl gweld y gofeb yn un o’r gerddi (fel y caiff y darnau bach o laswellt sy’n britho’r ddinas eu galw) eraill. Ond wrth gwrs nid oedd hynny i fod. Byddaf yn dychwelyd rhyw ddydd i weld cofeb Catrin.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael