Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod mawr yn Aberystwyth, diwrnod Ffair y Blaid. Bob Rhagfyr bydd Plaid Cymru yn cynnal ffair Nadolig yn Aberystwyth i godi arian. Pan ddes i Aberystwyth am y tro cyntaf ddiwedd y 1970au roedd y ffair yn ddigwyddiad mawr cymdeithasol a oedd yn denu pobol nad oedd ganddyn nhw ddim cysylltiad o gwbl â Phlaid Cymru a dim diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Bellach mae hynny wedi newid a chefnogwyr Plaid Cymru yw mwyafrif llethol y rhai sy’n dod i’r ffair. Ers blynyddoedd lawer dwi wedi bod yn gyfrifol am y peth hyn neu’r peth arall, ond eleni doeddwn i ddim wedi addo gwneud dim ac felly roeddwn yn rhydd i fwynhau’r prynhawn fel aelod cyffredin o’r cyhoedd. Fe wnes i wneud fy nyletswydd trwy wario ar y peth hyn a’r peth arall, ac fe dalodd hynny i mi gan fy mod wedi ennill gwobr yn y raffl ar y diwedd. Fy muddsoddiad mawr oedd copi o Dictionary of the place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan. Prynais i hwnnw oddi ar stondin oedd yn cael ei rhedeg gan Siop Inc, Aberystwyth. Roedd y Gweinidog yno ynghyd â nifer gynghorwyr a’r ymgeisydd seneddol, Penri James.
Yn y nos roedd ‘na ddigwyddiad arall, sef cinio Nadolig Plaid Cymru ac fe es i fan’ny hefyd. Roedd hwnnw’n cael ei gynnal yng Ngwesty Richmond. Roedd rhyw ddeugain yno i gyd a gŵr gwadd y noson oedd Mike Parker, awdur Neighbours from hell: English attitudes to the Welsh ymysg llyfrau eraill. Yn anffodus roedd yn rhaid imi adael yn gynnar. Roeddwn i’n gwneud pwt i Bwrw golwg ar Radio Cymru yn y bore, gorffen paratoi pregeth ac yn gorfod bod yn barod i agor Eglwys y Santes Fair gogyfer gwasanaeth y Cymun Bendigaid yn y bore. O’r herwydd ni chlywais sgwrs y gŵr gwadd, ond fe wnes i glywed canmol arni. Roedd y bwyd yn iawn hefyd – cefais i y paté i gychwyn, yna’r pryd llysieuol a phwdin Nadolig i orffen. Oherwydd fy mod wedi gadael yn gynnar ni chefais gyfle i finglo gyda phobol a dyna beth yw’r sbort mewn gwirionedd ar noson o’r fath.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael