Llundain 2007-10 (2)

Siop lyfrau Grant & Cutler, LlundainDoeddwn i ddim wedi cychwyn o Aberystwyth yn gynnar iawn fore Gwener, rhyw 9.30am, ond roeddwn i wedi cyrraedd Llundain erbyn canol y prynhawn gydag amser i fynd i grwydro ryw ychydig. Fel y dywedais dyma’r cyfle cyntaf imi ddefnyddio’r cerdyn Oyster ac ar y bws yr es i am ardal Soho a siop Grant & Cutler. Siop lyfrau yw Grant & Cutler ond mae’r llyfrau i gyd yn llyfrau dysgu ieithoedd tramor neu mewn ieithoedd tramor. Roeddwn i am gael golwg ar eu hadran Iseldireg, wrth gwrs. Tipyn o siom yw hi bob amser wrth edrych ar y silffoedd yma – fy mai yw hynny mewn gwirionedd gan fy mod wastad yn chwilio am ieithoedd ‘bychain’ ac ychydig yw’r llyfrau yn y maes hynny ac dwi’n gwybod amdanyn nhw yn barod. Petawn i’n dewis iaith fel Rwsieg neu Almaeneg neu Sbaeneg neu Arabeg byddai siop Grant & Cutler yn fwy o drysorfa. Os dwi’n cael fy siomi gyda’r dewis mewn Iseldireg dwi bob amser yn medru mynd i edrych ar y silffoedd ar gyfer Affrica a chanol Asia- Mandinkaeg, Kisieg a Bambaraeg; Lingalaeg, Wolofef a Twïeg; Somalieg, Malgaseg a Dholou; Uzbekeg, Kirghizieg a Thajikeg; Mongoleg, Checheneg ac Armeneg. Maen nhw i gyd yno.

Hoegaarden, Bierodrome, Kingsway, LlundainWedi bodloni fy chwilfrydedd am lyfrau Iseldireg yn siop Grant & Cutler dyma droi yn ôl i’r Kingsway ac i dafarn gyda thema Felgaidd, y Bierodrome. Fan ‘ny ges i swper – croquettiau caws i ddechrau gyda phersli wedi’i ffrïo a chregyn gleision i ddilyn. Roeddwn i wrth fy modd. Roedd y bwyd yn rhesymol am fy mod yn bwyta cyn 7.30pm, ac roedd hanner peint o gwrw gwyn am ddim gyda’r pryd ac roedd hwnnw’n llawer rhatach oherwydd yr amser; felly doedd hi ddim yn syndod fod cynifer o fyfyrwyr yn bwyta yno yr un pryd. Wedi swper ymlwybro’n ôl yn araf tua’r gwesty ger gorsaf Euston.

Swper 2007-10-19

Rhagor o luniau o’r diwrnod.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>